Rhybudd rhag algâu yn Noc y Gogledd

346 diwrnod yn ôl

Mae arwyddion wedi eu codi yn Noc y Gogledd i rybuddio pobl rhag algâu gwyrddlas.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio'r cyhoedd i osgoi dod i gysylltiad â'r dŵr tra bydd yr arwyddion yn rhybuddio rhag y posibilrwydd o groeshalogi drwy achosion naturiol.

Gall yr algâu achosi i bobl ac anifeiliaid fod yn sâl, felly cynghorir y cyhoedd i beidio â nofio yn y dŵr; peidio â llyncu'r dŵr; peidio â chyffwrdd â'r algâu; peidio â gadael i anifeiliaid anwes ddod i gysylltiad â'r dŵr, ac i ddarllen yr arwyddion sydd yn y Doc a'r parc dŵr ac ufuddhau iddynt.

Roedd profion a gynhaliwyd yn Noc y Gogledd, Llanelli, gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau presenoldeb algâu. Mae hyn er gwaethaf gwelliannau i gylchrediad y dŵr. Bydd y sefyllfa'n cael ei monitro yn Noc y Gogledd a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddeall sut y gellir datrys mater yr algâu gwyrddlas sy'n digwydd yn naturiol.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae cynnydd mawr mewn algâu ac algâu gwyrddlas yn ddigwyddiad naturiol sy'n digwydd o bryd i'w gilydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd twym. Rydym yn cydnabod y siom y bydd defnyddwyr Doc y Gogledd yn ei gael ynglŷn â'r newyddion hyn, fodd bynnag, mae iechyd cyhoeddus ein trigolion ac ymwelwyr yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, ac mae hyn yn esbonio pam y gosodwyd hysbysiadau o amgylch Doc y Gogledd yn cynghori pobl i beidio â mynd i mewn i'r dŵr. Rydym yn annog pobl i dalu sylw i'r rhybudd sydd wedi cael ei roi. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ar y cyd â'n partneriaid ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y gall yr algâu gynhyrchu tocsinau sy'n gallu achosi brech ar y croen, cyfog, chwydu, poenau stumog, twymyn a phen tost os yw'n cael ei lyncu.

Os oes gennych unrhyw bryderon iechyd, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 111.