Fframwaith Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer Adeiladu - gweminar tendr byw am ddim - 19 Mai

345 diwrnod yn ôl

Ar 27 Ebrill 2023 cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin dendr ynghylch ei Fframwaith Gwasanaethau Proffesiynol newydd ar gyfer Adeiladu ar GwerthwchiGymru

I weld yr hysbysiad contract, cliciwch yma https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=APR435747, côd y prosiect ar gyfer eDendroCymru yw 51493.

Mae'r Cyngor yn awyddus i ddenu ystod amrywiol o fusnesau ac yn eu hannog i wneud cais.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod efallai nad yw rhai busnesau wedi tendro am Fframwaith o'r blaen ac oherwydd hyn, bydd Busnes Cymru yn hwyluso gweminar tendr byw am ddim yn benodol i'r rhai sy'n dymuno tendro ar gyfer y Fframwaith hwn, i'w gynnal ar 19 Mai 2023.

Bydd Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau ar gyrchu'r e-dendr a chyflwyno cais. Mae'n hanfodol i chi gofrestru er mwyn archebu lle ar gyfer y gweminar.

I gofrestru, cysylltwch â Busnes Cymru ar 01267 233749 neu drwy e-bost yn: westwales@businesswales.org.uk

Bydd y fframwaith, ar fydd ar waith am bedair blynedd, yn sicrhau gwerth effeithlon am arian i'r Cyngor wrth gaffael, er mwyn cael gwasanaethau ymgynghori o safon i helpu ei His-adran Dylunio a Chynnal a Chadw Eiddo i ddarparu ystod eang o brosiectau adeiladu.

Mae'r Cyngor yn dymuno penodi ymgynghorwyr o'r disgyblaethau canlynol ar y Fframwaith: -

  • Penseiri
  • Rheoli prosiectau a chostau
  • Ymgynghorwyr Cynllunio
  • Ymgynghorwyr Gwaith Mecanyddol, Trydanol a Phlymwaith
  • Peirianwyr Strwythurol
  • Ymgynghorwyr Ynni Isel
  • Ymgynghorwyr Aml-Ddisgyblaeth

 

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith a sut i gyrchu'r tendr a'r dogfennau cysylltiedig, yn ogystal â chyflwyno cais, gweler Hysbysiad y Contract ar wefan GwerthwchiGymru