Gwasanaeth Parcio a Theithio PR1 o Gaerfyrddin i Nant-y-ci yn dod i ben ym Mehefin

363 diwrnod yn ôl

Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad ynghylch cyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Caerfyrddin PR1, o Nant-y-ci i Ysbyty Glangwili, yn dod i ben ar 16 Mehefin, 2023.

Mae gwasanaeth Parcio a Theithio Caerfyrddin PR1 yn cael ei ddarparu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 0730 a 1825 ac yn cynnig cyfleuster Parcio a Theithio bob hanner awr o faes parcio Nant-y-ci i Ganol y Dref ac Ysbyty Glangwili.

Darperir y gwasanaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae'r cyfleuster parcio a theithio yn Nant-y-ci ar hyn o bryd yn cynnwys gwasanaeth bws gwennol sy'n cysylltu â chanol tref Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili. Ond mae'r defnydd o'r gwasanaeth yn isel iawn gyda'r cyfartaledd presennol yn 4.3 o deithwyr ar gyfer pob taith, sy'n cynnwys pobl sy'n byw yn yr ardal gyfagos sy'n cerdded i'r safle er mwyn defnyddio un o'r gwasanaethau bob hanner awr.  Achosa hyn i'r gwasanaethau bws eraill sy'n rhedeg gerllaw, ond yn llai aml, fod yn llai ymarferol.

Gwasanaethau bws eraill rhwng Nant-y-ci a Chanol Tref Caerfyrddin

Bydd pobl sy'n dymuno teithio ar fws rhwng Nant-y-ci a Chanol y Dref yn gallu gwneud hynny ar y gwasanaeth B11 rhwng Llanllwch a Pharcyffordd, ynghyd â gwasanaethau 222, 224 a 322 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin, sy'n aros ger Travellers Rest ar yr A40.

Bydd Gwasanaeth Bws 322 yn parhau rhwng Nant-y-ci ac Ysbyty Glangwili.

Bydd y gwasanaethau bws canlynol yn parhau rhwng Canol Tref Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili: 205, 206, 280, 281, 282, 322, 460, T1, T1A, T1C, T1X

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith “Er y bydd gwasanaeth PR1 yn dod i ben ar 16 Mehefin, mae sawl llwybr bws ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio a theithio'n hawdd rhwng Nant-y-ci, Canol Tref Caerfyrddin ac Ysbyty Glangwili.

“Roedd rhoi'r gorau i'r gwasanaeth PR1 ymhlith ystod eang o gynigion ar gyfer arbedion yn y gyllideb a gyflwynwyd i'n trigolion ym mis Ionawr ac rydym hefyd wedi ymgynghori â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n ariannu'r gwasanaeth yn rhannol.

“Mae rhybudd 12 wythnos wedi cael ei gyhoeddi ynglŷn â gwasanaeth bws PR1. Mae'r penderfyniad i ddod â'r gwasanaeth hwn i ben yn deillio o'r pwysau ariannol sylweddol a roddir ar ein Cyngor, ac yn wir bob awdurdod lleol, y nifer isel o deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'r nifer sylweddol o wasanaethau bws eraill a fydd yn sicrhau cysylltiad da rhwng Nant-y-ci, Canol y Dref a'r Ysbyty"

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae parcio yn ysbyty Glangwili yn parhau i fod yn her i'n cleifion, ymwelwyr, a staff oherwydd nad oes digon o le ar ein safle ar gyfer nifer y cerbydau sy'n ymweld â'r safle. Er bod y cyfleusterau parcio a theithio wedi bod ar waith ers tro, rydym yn ymwybodol bod nifer y teithwyr yn isel iawn ac yn deall pam y mae'r Cyngor yn gwneud y newidiadau hyn.

“Hoffem sicrhau aelodau o'n cymuned bod gwella cyfleusterau parcio a mynediad i'r ysbyty yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd. Rydym yn gweithio gyda Rheilffordd Gwili i gwblhau'r cynlluniau ar gyfer y safle hwnnw a fydd yn galluogi staff i gael mynediad i 144 o lefydd parcio, gan leihau'r pwysau sylweddol ar safle'r ysbyty yn ystod yr oriau brig i ymwelwyr. 

“Rydym hefyd yn gweithio ar gynlluniau a fydd yn darparu 50 o leoedd parcio ychwanegol yn Ysbyty Glangwili fel rhan o ddatblygiad y ganolfan menywod a phlant a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod yr haf.”