Y Cyngor yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2023-24

613 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 mewn ymateb i'w ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd. Mae toriadau arfaethedig i gyllid ysgolion a chynnydd mewn prydau ysgol a thaliadau am barcio wedi cael eu lleihau, ond ar yr un pryd bydd cynnydd is na'r disgwyl yn y dreth gyngor o 6.8% yn galluogi'r Cyngor i osgoi torri gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.    

 

Wrth baratoi'r gyllideb fwyaf heriol ers blynyddoedd lawer, gwahoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb i roi eu barn, eu hawgrymiadau a'u dewisiadau ar gyfanswm o 17 o gynigion ar gyfer y gyllideb. Ymatebodd dros 2,000 o bobl i'r ymgynghoriad ar-lein, ac fe ddaeth 80 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd y sir i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir i drafod ag aelodau'r Cabinet a mynegi eu blaenoriaethau.

 

Ymhlith y prif newidiadau i gynigion cyllideb y Cyngor mae:

 

  • Cynnydd arfaethedig o 6.8% yn y dreth gyngor, sy'n llawer is na'r gyfradd chwyddiant gyfredol. Dim ond 25% o Gyllideb Refeniw Net y Cyngor gwerth £450m sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw'r balans sy'n weddill o'r grant Cymorth Refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru a'r Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.
  • Mae'r gostyngiad arfaethedig o £2.7m yn y Gyllideb a Ddirprwyir i'r Ysgolion wedi cael ei thorri i £2m, er mewn termau arian parod go iawn, bydd ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cael £8m yn ychwanegol i dalu am chwyddiant, ynni a chostau staffio.

 

  • Y bwriad gwreiddiol oedd codi pris prydau ysgol 10% yn unol â chwyddiant, ond mae hyn wedi ei haneru i 5%.

 

  • I gydnabod y cyfnod anodd hwn i fasnachwyr canol trefi, mae'r cynnydd arfaethedig o 10% yn gysylltiedig â chwyddiant mewn taliadau am barcio hefyd wedi'i gwtogi i 5%. Yn y cyfamser, mae adolygiad o gyfnodau parcio am ddim yn cael ei gynnal. Mae'n werth nodi bod yn rhaid i'r Cyngor dalu Trethi Annomestig ar feysydd parcio, sydd ar hyn o bryd yn gyfystyr â ymhell dros £300,000 yn Nhref Caerfyrddin yn unig.

 

  • Mae £262,000 ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer Priffyrdd a Chanol Trefi, er mwyn helpu i leddfu'r gostyngiad blaenorol mewn cyllid oherwydd mesurau ariannol llym.

 

  • Mae toriadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a Grantiau Gwasanaethau Plant wedi cael eu gollwng yn llwyr.  

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol, yn wynebu pwysau ariannol digynsail gan fod costau cynyddol chwyddiant, prisiau bwyd ac ynni ynghyd â mwy o alwadau byd-eang am nwyddau a gwasanaethau, yn golygu bod diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24. 

 

Mae costau ynni'r Cyngor wedi treblu bron ac mae'r codiad cyflog i staff, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn llawer uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer 12 mis yn ôl, oherwydd y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant.

Yn dilyn setliad cyllid Llywodraeth Cymru, cyhoeddiwyd y setliad terfynol ar 28 Chwefror, nododd Cyngor Sir Caerfyrddin fod angen pontio diffyg yn y gyllideb o dros £20 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod mai hon yw un o'r cyllidebau anoddaf mae wedi'i phennu erioed, ac felly bydd yr arian a ddyrennir i awdurdodau lleol, sydd tua thri chwarter ein cyllid, yn brin iawn o'r hyn sydd ei angen ar y Cyngor i barhau gyda gwasanaethau fel y maent ar hyn o bryd. Mae'r Dreth Gyngor yn codi tua £112 miliwn y flwyddyn ac mae'n cyfrannu tuag at oddeutu chwarter cyfanswm y gyllideb net flynyddol.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Dreth Gyngor, a refeniw o grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: "Mae'r dewisiadau o ran y gyllideb eleni yr un mor anodd ag yn ystod blynyddoedd gwaethaf y cyfnod o gyni cyllidol. Fel yr wyf i eisoes wedi'i ddweud, mae'r sefyllfa yn un hynod. Er i'r cyllid gan Lywodraeth Cymru, sy'n cyfrif am tua thri chwarter ein hincwm, gynyddu 8.5%, roedd yn dal yn rhaid i ni gyllidebu am arbedion o £9.4m ar gyfer eleni, a oedd yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn.

 

"Roedd y sefyllfa yn fwy heriol yn sgil gwneud cynnig cyflog cenedlaethol i Undebau Llafur yn cynrychioli staff cyngor heb fod yn addysgu ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Roedd yr amseru yn anarferol ac yn broblematig dros ben, gan iddo ddigwydd ddyddiau cyn i'r gyllideb gael ei rhoi gerbron y Cyngor Llawn. Mae'r cynnig cyflog ar lefel yn uwch na bron pob rhagdybiaeth Cynghorau Cymru, ac os caiff ei dderbyn gan yr undebau, bydd yn costio £3m yn ychwanegol i'r awdurdod o gymharu â'r hyn yr oeddem wedi ei gyllidebu. Rydym wedi gorfod cymryd camau brys, gan gynnwys cymryd ychydig o arian o gronfeydd wrth gefn y cyngor, i ddarparu ar gyfer y pwysau annisgwyl hyn yr adeg hon o'r flwyddyn. 

 

 “Ar nodyn mwy cadarnhaol, rhoddodd newidiadau fel prisiau ynni wedi'u diweddaru yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf, a rhyddhau taliadau cyfalaf, gyfanswm o bron i £1.8m i ni wneud newidiadau i gyllideb y flwyddyn nesaf. Bydd y Cyngor yn gwneud y defnydd gorau o'r swm hwn drwy wneud addasiadau sy'n ystyried y broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth gan y cyhoedd a chynghorwyr.

 

"Byddwn yn darparu £1.3m i ddileu neu leihau naw o ostyngiadau penodol yn y gyllideb. Mae'r rhain yn cynnwys cadw Canolfan Hamdden Sanclêr ar agor wrth i ni weithio gyda'r gymuned i greu llwybr ariannol hyfyw ar ei chyfer; rhoi chwarter miliwn o bunnoedd yn ôl i'r gwasanaethau plant ac ieuenctid er mwyn buddsoddi yn yr agenda atal; lleihau'r effaith ar wasanaeth cerdd ysgolion a gwasanaethau anableddau dysgu, ac yn bwysicaf oll, lleihau'r galw ariannol ar ysgolion £700,000, gan ymateb i'r farn gryfaf a fynegwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Byddwn ni hefyd yn gohirio unrhyw newidiadau i'r polisi derbyn ‘plant sy'n codi'n 4 oed’ i ysgolion am flwyddyn, er mwyn  ymgynghori’n ehangach a chaniatáu amser priodol i gynllunio unrhyw newidiadau posibl.

 

"Bydd y Cyngor yn gohirio codi tâl mewn naw maes parcio mewn trefi a phentrefi llai sydd am ddim ar hyn o bryd, er mwyn rhoi amser i asesu ac i ystyried yr effaith ehangach ar bob ardal. Rydym hefyd wedi tynnu'n ôl y gostyngiad o £22,000 yng nghyllideb yr Iaith Gymraeg a ddefnyddir i gefnogi prosiectau a gwaith ac ymchwil sy'n gysylltiedig â chomisiynu.

 

“Byddwn ni'n defnyddio £385,000 i gefnogi busnesau a theuluoedd sy'n gweithio'n galed drwy gyfyngu ar daliadau meysydd parcio a phrydau ysgol i gynnydd o 5%, sef hanner y gyfradd chwyddiant cyffredinol ar hyn o bryd a thraean chwyddiant bwyd.

 

“Mewn ymateb i bryderon ynghylch priffyrdd a chanol trefi, mae swm ychwanegol o chwarter miliwn o bunnoedd yn cael ei ddyrannu'n uniongyrchol i’r blaenoriaethau hyn, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer gwaith glanhau ychwanegol ar strydoedd. 

 

"Yn olaf, ac yn bwysicach ddigon, gadawodd hyn ddigon o gyllid i ni leihau'r cynnydd yn y dreth gyngor i 6.8% ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae lleihau'r cynnydd i'r lefel hon wedi cymryd ymdrech enfawr gan swyddogion, ni ein hunain a phob un arall sy'n rhan o'r broses dros gyfnod o sawl mis. Rydym ni wir wedi ceisio gwrando ar bryderon pobl ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i'w lleddfu nhw. 

 

"Rwy'n llwyr werthfawrogi bod y cynnydd hwn yn faich arall ar breswylwyr, ond credaf ei fod yn darparu'r cydbwysedd cywir wrth i ni ymdrechu i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol y mae pobl Sir Gaerfyrddin yn dibynnu arnynt ac yn disgwyl i'w Cyngor eu darparu’n ddyddiol."