Urddas Mislif yn Sir Gaerfyrddin

412 diwrnod yn ôl

Mae cynnyrch mislif ar gael am ddim i'r rheiny sydd mewn angen yn Sir Gaerfyrddin.

I gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa'i drigolion fod cymorth ar gael i fynd i'r afael â thlodi mislif o fewn y sir.

Mae cynnyrch mislif am ddim ar gael ac yn hygyrch, a hynny mewn dros 50 o leoliadau ar draws Sir Gaerfyrddin i gymaint o bobl â phosibl; heb unrhyw ffwdan, heb drafferth, a dim cwestiynau'n cael eu gofyn.

Ewch i dudalen we y Cyngor ynghylch Cymorth o ran Tlodi Mislif i gael rhestr lawn o'r canolfannau casglu, sy'n cynnwys y tri Hwb canol tref yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin.

Mae'r ddarpariaeth o gynnyrch mislif am ddim gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei hariannu gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi: “Mae urddas mislif yn ddyhead i'n cymdeithas gyfan ei wireddi. Er gwaethaf yr argyfwng costau byw, sy'n gorfodi llawer ohonom i gyfyngu ar yr hyn rydym yn gwario arian arno, byddwn ni, fel cyngor, yn sicrhau bod gan bob person yn Sir Gaerfyrddin fynediad at gynnyrch mislif am ddim, pe bai eu hangen arnynt.

“Rydym yn falch, fel awdurdod lleol, o ddarparu cynnyrch mislif am ddim i'r rheiny sydd mewn angen, ac mae'r rhain yn rhai ecogyfeillgar y gellir eu hailddefnyddio, i gyfyngu ar yr effaith negyddol ar yr amgylchedd.”

Os ydych yn Sefydliad, yn Brosiect neu'n Fusnes yn Sir Gaerfyrddin a'ch bod yn dymuno cefnogi'r prosiect drwy ddod yn 'Fan Dosbarthu', cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at biwrocymunedol@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01269 590216.