Pibell danddaearol dan yr A484 er diogelwch dyfrgwn

401 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid wedi gwella diogelwch dyfrgwn ar ffordd brysur yr A484 ger Cydweli drwy osod pibell danddaearol. 

Bydd y bibell sydd newydd ei gosod ym Mhont y Comisiynydd ar gyrion Cydweli yn galluogi dyfrgwn lleol i osgoi'r A484 a theithio'n ddiogel i fyny afon Gwendraeth, yn hytrach na gorfod gadael yr afon a chroesi'r A484 oherwydd fflapiau llanw wrth y bont. Mae ffens i arwain y dyfrgwn i'r bibell hefyd wedi'i chodi.  

Gwireddwyd y prosiect yn sgil cyllid gan y Grid Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwaith partneriaeth rhwng Cyngor Tref Cydweli a Chyngor Sir Caerfyrddin.  

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Rwy'n falch iawn bod diogelwch dyfrgwn wedi'i wella ar hyd yr A484 ym Mhont y Comisiynydd o ganlyniad i gydweithio.

Roedd yr ardal hon yn cael ei hystyried yn fan peryglus i ddyfrgwn, ond rwy'n gobeithio bydd gosod y bibell danddaearol newydd yn gwella'n fawr ddiogelwch y boblogaeth ddyfrgwn yma." 

Dywedodd David Scott, Uwch-swyddog Tir gyda'r Grid Cenedlaethol

Mae cael cyn lleied o effaith â phosib ar yr amgylchedd a chefnogi bywyd gwyllt a chynefinoedd sydd ar neu ger ein seilwaith yn hollbwysig i ni yn y Grid Cenedlaethol. Rydym ni'n hynod falch i weithio gyda nifer o bartneriaid i helpu i ariannu'r twnnel hwn yn rhannol, er mwyn diogelu dyfrgwn yn Sir Gâr, ac rydym ni'n gobeithio y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y boblogaeth ddyfrgwn yn gyffredinol." 

Dywedodd Becky Clews-Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol - Mamaliaid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:  

Mae dyfrgwn sy’n cael eu lladd ar y ffordd yn gallu cael effaith sylweddol ar boblogaethau lleol, yn enwedig os mai dyfrgi benywaidd sydd â rhai bach sy'n trengi.

Rydym ni'n croesawu cwblhau'r gwaith hwn a ddylai fod o fudd i'r boblogaeth ddyfrgwn leol a helpu i atal dirywiad pellach." 

Bydd y safle'n cael ei fonitro i weld pa mor gyflym bydd y dyfrgwn yn addasu i ddefnyddio'r llwybr diogel hwn o dan y ffordd. 

Mae nifer y dyfrgwn yng Nghymru sy'n marw mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd wedi bod yn peri pryder ers tro. Mae poblogaethau dyfrgwn ar draws Prydain wedi bod yn cynyddu'n raddol ar ôl gostyngiad sylweddol yn yr 1970au. Fodd bynnag, dangosodd Arolwg Cenedlaethol diwethaf Cymru ar gyfer Dyfrgwn yn 2021 ddirywiad bach yn y boblogaeth, felly mae gweithredu i gefnogi'r rhywogaeth warchodedig hon yn bwysig.