Llifogydd yng Nghamlas Pen-bre

415 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu â thrigolion lleol Pen-bre ynghylch llifogydd rheolaidd yng Nghamlas Pen-bre a'i lwybr beicio cysylltiedig, yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae llwybr beicio Camlas Pen-bre yn llwybr teithio llesol 4 cilometr o hyd rhwng Harbwr Porth Tywyn i'r gogledd ac yna i'r gorllewin, tuag at Gydweli. Mae'n dilyn llwybr hen Reilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth, a arferai fod yn gamlas ac yn llwybr halio. Heddiw, mae'r elfen ddŵr, sef y gamlas, ochr yn ochr â'r llwybr beicio.

Defnyddir y llwybr yn aml gan gerddwyr a beicwyr ond, yn anffodus, yn ystod cyfnodau o law trwm, mae rhannau o'r llwybr dan ddŵr, sy'n arwain at gau rhannau ohono i'r cyhoedd. Yn naturiol, mae hyn yn rhwystredig iawn i'r gymuned leol.

Mae atal y llwybr rhag cael llifogydd rheolaidd yn her sylweddol oherwydd ffactorau ecolegol a'r dirwedd leol. Ond fel rhan o gynllun rheoli ehangach, gall gwaith sy'n cael ei gynllunio gan Gyngor Sir Caerfyrddin leihau pa mor aml y mae'r llifogydd yn digwydd.

Mae lleoliad y llwybr beicio, sef hen gamlas, yn golygu bod dŵr yn draenio'n naturiol i'r man isel hwn gan fod y gamlas yn wastad ac yn atal dŵr rhag llifo neu ddraenio fel y byddai afon yn ei wneud. Dyma'r rheswm y mae'r llwybr yn debygol o fod dan ddŵr yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae'r gamlas hefyd yn gartref i gynefin cyfoethog o ran bioamrywiaeth, sy'n cynnwys llygod pengron y dŵr a moch daear. Mae'r ddwy rywogaeth hon yn cael eu gwarchod, ac mae rheoli eu cynefin yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Wrth ystyried y ffordd orau o amddiffyn y bywyd gwyllt, gan nodi ffyrdd o reoli'r perygl llifogydd, mae'r Cyngor wedi cynnal arolwg bioamrywiaeth llawn o'r gamlas a fydd yn llywio cynllun cynnal a chadw ar gyfer y gamlas a'r llwybr beicio. Mae'r gwaith cynnal a chadw presennol ar gyfer y llwybr hyd yn oed yn fwy cymhleth oherwydd bod angen rheoli rhywogaethau goresgynnol sydd hefyd yn bresennol yn y gamlas.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Rydym yn deall rhwystredigaeth y gymuned leol wrth iddynt weld bod y llwybr beicio dan ddŵr yn rheolaidd. Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £25,000 i reoli perygl llifogydd y llwybr, ond, wrth symud ymlaen, rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar gyda'r broses hon gan nad oes oedd modd cael ateb yn y tymor byr.

“Er bod y llwybr yn llwybr teithio llesol sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr yn lleol, mae llwybrau eraill y gall cerddwyr a beicwyr eu defnyddio pan fydd hwn ar gau i'r cyhoedd.

“Mae'r Cyngor wedi ffurfio gweithgor mewnol i oruchwylio'r gwaith o reoli'r gamlas a'r llwybr beicio. Fodd bynnag, mae'n rhaid imi bwysleisio nad oes perygl llifogydd i anheddau a busnesau yn yr achos hwn ac felly byddwn yn parhau i flaenoriaethu rheoli perygl llifogydd o ran eiddo domestig ac eiddo busnes ynghyd â phriffyrdd cyhoeddus cyn achosion fel hyn.”