Gwaith adeiladu yn dechrau ar Bentre Awel

416 diwrnod yn ôl

Heddiw, 6 Mawrth, mae gwaith adeiladu ar Bentre Awel wedi dechrau'n ffurfiol, wrth i Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, partneriaid a rhanddeiliaid i safle'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn dod â chyfleusterau busnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd mewn un lleoliad gwych ar arfordir Llanelli.

Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn darparu ymchwil feddygol o'r radd flaenaf ac yn darparu gofal iechyd a bydd yn cefnogi ac yn annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.

Bydd yn creu pum adeilad gwahanol sy'n gysylltiedig â "stryd", a fydd yn cynnwys canolfan gweithgareddau dŵr, neuadd chwaraeon, ystafelloedd chwaraeon a ffitrwydd amlbwrpas a champfa, cyfleusterau addysg a hyfforddiant, darpariaeth glinigol ac ymchwil ac arloesi a lle i fusnesau. 

Yn ogystal â gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Bouygues UK i ddylunio ac adeiladu Parth 1 datblygiad Pentre Awel, yn dilyn proses dendro helaeth drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarth De-orllewin Cymru.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price, "Rwy'n falch iawn o groesawu holl gynrychiolwyr allweddol y sefydliadau partner i'r safle ar y diwrnod pwysig hwn pan fyddwn yn dechrau ar y gwaith adeiladu yn swyddogol.

“Mae Pentre Awel yn brosiect adfywio strategol o bwys i Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae'n ganolog i gyflawni ein Cynllun Adfer Economaidd. Er mai Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n arwain y datblygiad uchelgeisiol hwn, ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth ac ymroddiad gan ystod eang iawn o randdeiliaid y mae pob un ohonynt yn cael eu cynrychioli yma heddiw.”

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad oedd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd John: “Mae Pentre Awel yn dwyn ynghyd gyfuniad unigryw o elfennau sy'n cwmpasu’r byd busnes, y byd academaidd, iechyd a gofal ac, yn hollbwysig, ein cymuned; a byddant i gyd yn datblygu rhwydwaith i greu system gyfan lle gall partneriaid ddod o hyd i gyfleoedd i weithio ar draws ffiniau traddodiadol.

“Mae Pentre Awel yn brosiect sawl cam sy'n dechrau dod yn realiti heddiw wrth i ni ddechrau yn swyddogol ar adeiladu Parth 1 y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hydref 2024.

“Fodd bynnag, dim ond y dechrau yw Parth 1. Ym Mharthau 2 a 3 bydd tua 370 o unedau byw â chymorth a gwelyau. Ar gyfer Parth 4, mae gennym ganiatâd cynllunio ar gyfer gwesty a thai. Cadwch lygad am y datblygiadau diweddaraf.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: “Mae hwn yn brosiect cyffrous a phwysig ac mae Llywodraeth y DU yn falch o'i gefnogi drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

“Mae gan Bentre Awel botensial i ddod â chryn fanteision i'r ardal leol drwy gyfleusterau iechyd a hamdden o'r radd flaenaf ond hefyd drwy gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Dyma 'codi'r gwastad' ar waith ac rwy'n falch iawn o weld y prosiect hwn yn cyrraedd ei gam datblygu nesaf.” 

Dywedodd Peter Sharpe, Cyfarwyddwr Prosiect Bouygues UK ym Mhentre Awel, "Roedd yn wych croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i dorri'r tir yn swyddogol yn y datblygiad pwysig hwn. Roedd yn gyfle arbennig i ni rannu ein cynlluniau manwl ar y gwaith adeiladu a thrafod sut rydym yn ymgysylltu â'r gymuned leol i gynnig swyddi a chyfleoedd hyfforddiant drwy gydol datblygiad Pentre Awel. 

“Mae'r cyfleusterau hamdden ac iechyd o'r radd flaenaf yn mynd i fod o fudd i'r boblogaeth leol am genedlaethau i ddod, ac mae hynny'n rhywbeth cyffrous iawn i fod yn rhan ohono. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag is-gontractwyr lleol gwych a symud ymlaen â'r gwaith adeiladu yn gyflym dros y misoedd nesaf.”

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40 miliwn).