Mawrth 29 - Dyddiad Cau Cronfa Ffyniant Gyffredin yn Sir Gaerfyrddin

400 diwrnod yn ôl

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn Sir Gaerfyrddin ar agor bellach, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau cymunedol a busnesau i ariannu prosiectau fydd yn cynyddu ffyniant ein sir.

Mae £38.6 miliwn o gyllid wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Caerfyrddin drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd de-orllewin Cymru yn cael cyfanswm o £137.77 miliwn o gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn dilyn cymeradwyo Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-orllewin Cymru. Cyngor Abertawe fydd yr awdurdod arweiniol ar ran y pedwar cyngor yn y rhanbarth, a bydd yr holl benderfyniadau cyflawni a chyllid yn cael eu gwneud yn lleol gan bob awdurdod lleol.

Mae £38.6 miliwn o gyllid wedi'i ddyrannu i Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae Partneriaeth Adfywio Lleol wedi'i sefydlu i lywio'r gwaith o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Bellach mae nifer o gyfleoedd yn cael eu lansio i sefydliadau cymunedol, busnesau, a sefydliadau cyhoeddus wneud cais am gyllid.

“Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda'n partneriaid lleol i dyfu economi Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei dderbyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n pobl leol a'n busnesau. Byddwn yn annog unrhyw ddarpar ymgeisydd sydd â syniad am brosiect i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.”

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyllido sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â manylion ar sut i wneud cais.

Nodyn i Olygyddion:

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi ym meysydd cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy