Caru Sir Gâr? Beth am ddod yn llysgennad iddi?

394 diwrnod yn ôl

Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.

Mae Cynllun Llysgenhadon Ar-lein wedi'i lansio gan Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n darparu cyfle hyfforddiant ar-lein i wella'ch gwybodaeth am y cyfleoedd twristiaeth sydd gan y sir i'w cynnig. O'i thirweddau godidog a'i hanturiaethau awyr agored i'w diwylliant bywiog a'i threftadaeth gyfoethog, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig rhywbeth i bawb ac, fel llysgennad, byddwch yn gallu rhoi cyngor arbenigol i dwristiaid ac ymwelwyr yn y sir neu breswylwyr lleol sy'n chwilio am ddiwrnod allan.

Mae Cynllun Llysgenhadon Sir Gaerfyrddin yn cynnig ystod eang o fodiwlau hyfforddi ar-lein, ar amrywiaeth o themâu, a llu o adnoddau ar-lein. Mae cofrestru i fod yn llysgennad Sir Gaerfyrddin yn syml, yn hawdd ac yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd.

Mae am ddim ac yn agored i bawb. O breswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol i ddarparwyr llety ac atyniadau i'r rhai sy'n gweithio blaen tŷ mewn siop neu gaffi. Mae myfyrwyr, wardeniaid traffig, tywyswyr teithiau a threfnwyr digwyddiadau hefyd yn yn cael eu hannog i fod yn llysgenhadon i ddysgu mwy am nodweddion unigryw ein hardal.

Mae 3 lefel o achrediad - efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sydd wedi'u cwblhau. Bydd gwobrau, gan gynnwys tystysgrifau, yn cael eu hanfon at bawb sy'n cwblhau'r lefelau hyn.

Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Ynys Môn a Cheredigion yw'r cyrchfannau diweddaraf i ymuno â Sir Ddinbych i gynnig y cwrs llysgenhadon ar-lein yng Nghymru.

Mae llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer sawl cwrs i ehangu eu dysgu am Sir Gaerfyrddin a bod yn rhan o gymuned ehangach.

Ymhlith y bobl gyntaf i gofrestru i gynllun llysgenhadon ar-lein Sir Gaerfyrddin mae George Reid, Cadeirydd Fforwm Twristiaeth De Orllewin Cymru a pherchennog Plas Glangwili. Ar ôl cwblhau ei achrediad lefel efydd, dywedodd George:

“Fel rhywun sydd wedi byw a gweithredu busnes twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin ers dros 20 mlynedd, cefais fy syfrdanu gyda'r holl wybodaeth, straeon a hanesion nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt. Mae'r cwrs wedi'i ysgrifennu'n gynhwysfawr ac wedi'i ysgrifennu'n dda gyda chyfuniad gwych o wybodaeth, ffeithiau a hiwmor.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros  Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Sir Gaerfyrddin yn llawn perlau cudd sy'n aros i gael eu darganfod a dyna pam rydym yn annog cynifer o bobl â phosibl i'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd gan ein hardal i'w gynnig a helpu tuag at wireddu ei photensial mawr. 

“P'un a ydych yn gweithio ym maes twristiaeth, lletygarwch neu'n dymuno dysgu rhagor am yr ardal, mae dod yn llysgennad yn ffordd wych o wella'ch gwybodaeth a'ch gwerthfawrogiad o'n sir. 

“Mae sector twristiaeth Sir Gaerfyrddin wedi perfformio'n gryf yn dilyn cyfyngiadau Covid-19 gyda thros 2.3 miliwn o ymwelwyr yn ychwanegu £412 miliwn at yr economi leol. Os gallwn annog yr ymwelwyr hyn i ymweld â hyd yn oed fwy o leoedd ar hyd yr arfordir, yng nghefn gwlad, ar safleoedd hanesyddol, anturiaethau egnïol ac ystod anhygoel o siopau bwyd a diod, y mwyaf y byddant am aros, mwynhau, gwario, dychwelyd ac argymell i eraill. 

“Er y gallai costau byw cynyddol wneud i bobl ailystyried sut y byddant yn treulio eu hamser gwerthfawr i ffwrdd eleni, mae amrywiaeth enfawr o gyfleoedd hamdden am ddim a hygyrch i deuluoedd, ffrindiau a chyplau fanteisio arnynt ledled y Sir. 

“Fel llysgennad i Sir Gaerfyrddin, byddwch yn chwarae rôl allweddol i hyrwyddo hyn.” 

I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Llysgenhadon Caerfyrddin neu i gofrestru, ewch i Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin 

Ydych chi'n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer gwyliaur Pasg neu ddiwrnod allan? Wedyn ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i ddarganfod beth sydd gan ein sir i'w gynnig.