Cyflwyno Stryd Ysgol yn Ysgol Maes y Morfa, Llanelli

438 diwrnod yn ôl

Mae 'Stryd Ysgol' yn cael ei chyflwyno y tu allan i Ysgol Maes y Morfa yn Llanelli a fydd yn weithredol o ddydd Llun, 6 Chwefror.  Bydd y Stryd Ysgol yn gwella diogelwch ffyrdd yng nghyffiniau'r ysgol, yn annog pobl i gerdded a beicio i'r ysgol ac oddi yno, ac yn gwella'r amgylchedd lleol i'r rheiny sy'n mynychu'r ysgol ac i drigolion lleol.  

Mae'r fenter yn Ysgol Maes y Morfa yn rhan o gynllun ar draws yr ardal a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy'r Grant Diogelwch Ffyrdd ac sy'n cael ei roi ar waith yn Ne Llanelli.

Bydd y 'Stryd Ysgol' yn cyflwyno gwaharddiad rhan-amser ar draffig modur ar Stryd Olive a Theras Bowen yn ystod amseroedd agor a chau'r ysgol (dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 9:10am a 2:40pm i 3:20pm, yn ystod y tymor ysgol yn unig).  Bydd eithriad i drigolion sy'n byw ar y strydoedd y mae'r cyfyngiad yn berthnasol iddynt.

Bydd y gwaharddiad yn cael ei orfodi trwy ddefnyddio camerâu parhaol, wedi'u gosod ar bob pwynt mynediad i'r parth 'Stryd Ysgol', a bydd yn gweithredu trwy system sy'n adnabod rhifau cofrestru cerbydau yn awtomatig.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

"Bydd y Stryd Ysgol newydd yn creu amgylchedd mwy diogel, iachach a mwy dymunol i bawb sy'n mynychu'r ysgol ac i drigolion lleol a bydd yn annog mwy o deithio llesol i'r ysgol ac oddi yno’.