Cyfle i chi ddweud eich dweud am gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya yn Sir Gaerfyrddin

Ym mis Medi 2023, bydd deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (gyda goleuadau stryd) ledled Cymru yn lle'r terfynau 30mya presennol. Caiff hyn ei wneud er mwyn:
- Gwella diogelwch ffyrdd
- Creu ardaloedd cerdded a beicio mwy diogel
- helpu i wella ein hiechyd a'n llesiant
Gall ffyrdd dethol sydd â rôl strategol ac sy'n llai o risg i gerddwyr a beicwyr fod yn eithriad i'r ddeddfwriaeth.
Mae'r Cyngor Sir wedi asesu'r holl ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin i fapio effeithiau'r ddeddfwriaeth ac i nodi'r eithriadau hyn. Bydd y rhain yn barod i'r cyhoedd eu gweld a rhoi sylwadau arnynt o ddydd Iau, 2 Chwefror.
Cymru fydd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd, a'r genedl gyntaf yn y DU, i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu gyda cherddwyr a beicwyr.
Meddai'r Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Rydym ni fel Awdurdod Lleol yn gweithredu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i osod terfyn cyflymder o 20mya ar y rhan fwyaf o'n ffyrdd cyfyngedig. Prif nod y terfyn cyflymder o 20mya yw gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i bobl agored i niwed sy'n defnyddio'r ffyrdd, ac annog mwy o gerdded a beicio. Bydd y newid yn y ddeddfwriaeth yn gofyn am newid sylfaenol mewn ymddygiad gyrwyr er mwyn cyflawni ei nodau a byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i addysgu'r cyhoedd ynghylch y newidiadau sydd ar droed".
Mae rhagor o fanylion am y newidiadau i'w gweld ar ein gwefan: