Dyfarnu dros £15 miliwn yn amodol i Brosiect Adfywio Llanelli

249 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw, 20 Tachwedd 2023, wedi cael cadarnhad bod ei gais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer Canol Tref Llanelli wedi cael ei gymeradwyo yn amodol.

Roedd y cais gwreiddiol am gyllid, a gyflwynwyd yn Rownd 2 o'r Gronfa Ffyniant Bro ar ddiwedd 2022, yn aflwyddiannus. Fodd bynnag, mae cyllid i ddod â hen siop Woolworths yng nghanol tref Llanelli yn ôl i ddefnydd parhaol a chynhyrchiol wedi'i gymeradwyo'n amodol yn ystod Rownd 3 o'r Gronfa Ffyniant Bro.

Roedd cynnig gwreiddiol Cyngor Sir Caerfyrddin am gyllid yn seiliedig ar gynlluniau i adfywio hen siop Woolworths yn Llanelli i ddefnydd parhaol a chynhyrchiol fel cyfleuster newydd sy'n cynnig gofod cydweithio hyblyg a swyddfeydd, cymorth busnes a chanolfan yng nghanol y dref i randdeiliaid.  Y bwriad yw cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd i gefnogi economi canol y dref.

Roedd y cais am gyllid hefyd yn ceisio darparu gwelliannau o ansawdd i'r amgylchfyd cyhoeddus yn y Sgwâr Canolog, Gerddi'r Ffynnon a Stryd Cowell.

Mae Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo'n amodol gyllid o £15,547,105 ar gyfer y prosiectau hyn, i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2026.

Ar gyfer y prosiect penodol a oedd yng nghais y Cyngor y llynedd y mae'r dyfarniad amodol o gyllid, ac ni ellir defnyddio'r arian a ddyfernir i gefnogi gweithgaredd sy'n sylweddol wahanol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y gallai fod angen gwneud addasiadau i'r prosiect oherwydd pwysau chwyddiant.

Ar ôl clywed am lwyddiant y cais, dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans: “Rydym yn croesawu penderfyniad y Gronfa Ffyniant Bro i gymeradwyo ein cais am gyllid ar gyfer canol tref Llanelli ac edrychwn ymlaen at ystyried y cynnig unwaith eto gyda swyddogion a rhanddeiliaid Llywodraeth y DU ac archwilio'r cyfleoedd posibl i ddatblygu bywiogrwydd canol y dref a'i llesiant economaidd ymhellach.”

Bu Cyngor Sir Caerfyrddin yn llwyddiannus yn rownd gyntaf ceisiadau y Gronfa Ffyniant Bro a sicrhau bron i £17m i fwrw ymlaen â phrosiect llwybr beicio Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo a chyfran o bron i £20m, mewn cais ar y cyd â Chyngor Sir Penfro, ar gyfer hybiau canol tref newydd yng Nghaerfyrddin a Phenfro.