Rhod Gilbert yn dewis Traeth Llansteffan ar gyfer lleoliad ffilmio Stand Up To Cancer

201 diwrnod yn ôl

Gwnaeth un o feibion enwocaf Caerfyrddin, y digrifwr Rhod Gilbert, ymweld â'i sir enedigol ddoe ac i draeth godidog Llansteffan.

Dewisodd Rhod, a gafodd ei eni a'i fagu yng Nghaerfyrddin, draeth Llansteffan fel y lleoliad i ffilmio rhan agoriadol ei sioe gomedi arbennig ei hun a fydd yn cael ei darlledu fel rhan o Stand Up To Cancer gan Channel 4 ddydd Gwener, 3 Tachwedd.

Wrth gymryd dwy funud o'i amserlen ffilmio, dywedodd Rhod,

"Rwyf wedi bod yn dod yma ers hanner can mlynedd ac rwy'n cwrdd â'm ffrindiau yma bob blwyddyn. Cefais fy magu yma ac mae'n gartref ysbrydol i mi. Yn rhywle y byddaf bob amser yn dod yn ôl iddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: 

“Rydym yn hynod falch o Rhod yma yn Sir Gaerfyrddin a phopeth y mae wedi'i gyflawni ym myd comedi. Er nad yw'n gyfrinach bod Sir Gâr yn ymfalchïo mewn trysorfa o olygfeydd trawiadol ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu, mae'n dweud llawer am y dyn fod Rhod wedi dewis lleoliad yn ardal ei fagwraeth i gychwyn y sioe deledu arbennig iawn hon.”

I gael gwybod rhagor am gyfleoedd ffilmio yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Cyfleoedd ffilmio (llyw.cymru)  

Mae Sir Gâr eisoes yn dangos ei bod yn gyrchfan ddymunol a chost-effeithiol ar gyfer ymgyrchoedd hysbysebu ar y teledu, yn ddigidol ac mewn print, gyda phwynt gwerthu unigryw nodedig yn cael ei greu yn y diwydiannau ceir a beiciau modur ar gyfer cynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol – yn enwedig y traethau 8 milltir a'r heolydd hir trwy ran orllewinol Bannau Brycheiniog a'r mynyddoedd Cambriaidd. Hefyd mae'r sir wedi ennill enw da fel lleoliad ffilmio ar gyfer dramâu a ffilmiau o bwys, a bellach mae Sir Gâr wedi bod yn gartref i nifer o gynyrchiadau llwyddiannus.

Mae'n hysbys bod Sir Gâr yn un o'r lleoedd mwyaf croesawgar, diddorol a chofiadwy yng Nghymru. Dyma gyrchfan â chyfoeth o brofiadau – trefi marchnad bywiog a chroesawgar, canolfannau adwerthu modern, traethau glân, cefn gwlad o fryniau a phantiau, ynghyd â thirweddau dramatig.

I gael gwybod rhagor am y golygfeydd trawiadol sydd gan Sir Gâr i'w cynnig, ewch i Crwydro - Darganfod Sir Gâr