Newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu a bagiau du o’r wythnos nesaf ymlaen

473 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud newidiadau i'w gasgliadau ailgylchu a bagiau du, a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi, ein preswylwyr, ailgylchu mwy o'ch cartref.

Daw'r newidiadau hyn i rym yr wythnos sy'n dechrau Ddydd Llun 23 Ionawr 2023.

Bydd bagiau glas, ar gyfer deunydd ailgylchu sych, bellach yn cael eu casglu bob wythnos, ochr yn ochr â'r bin gwyrdd ar gyfer eich gwastraff bwyd.

Byddwn yn casglu eich bagiau du, ar gyfer eich gwastraff cartref sy'n weddill na ellir ei ailgylchu, bob 3 wythnos. Gallwch roi hyd at 3 bag du allan bob 3 wythnos.

Mae preswylwyr wedi derbyn pecyn gwybodaeth a chalendr casglu, sydd yn egluro’r newidiadau i’r gwasanaeth ac yn dangos yn glir eu dyddiadau casglu ar gyfer 2023.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyflwyno gwasanaeth casglu newydd ar gyfer poteli gwydr a jariau, a fydd yn cael eu casglu bob 3 wythnos. Bydd eich diwrnod casglu ar yr un diwrnod â'ch casgliadau bagiau du.  Bydd casgliadau gwydr yn dechrau ar 23 Ionawr 2023.

Mae'n bwysig nodi y bydd gwydr a bagiau du yn cael ei gasglu gan gerbydau ar wahân ac efallai y bydd hyn yn digwydd ar wahanol adegau yn ystod y diwrnod casglu. Erbyn hyn, mae’r Cyngor wedi dosbarthu bocs du i gartrefi ar draws y sir i ddal poteli gwydr a jariau er mwyn eu casglu.

Ochr yn ochr â'r bocsys du newydd ar gyfer ailgylchu gwydr, bydd y Cyngor hefyd yn dosbarthu cyflenwad blwyddyn o fagiau glas a bagiau leinio gwastraff bwyd ar gyfer cadis cegin brown i breswylwyr.

Os oes gennych fwy o fagiau glas nag sydd eu hangen arnoch, rhowch nhw i deulu neu ffrindiau a allai fod angen cyflenwad ychwanegol neu ewch â nhw'n ôl i un o'n Canolfannau Hwb yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

"Ar gyfer 2021/22, fe wnaethom ni fel awdurdod lleol ailgylchu 62% o'r gwastraff a gasglwyd gan ein trigolion. Er hyn, fe allwn ac mae'n rhaid i ni ailgylchu mwy i gyrraedd, ac yn wir ragori, ar y gyfradd ailgylchu statudol o 64% sydd wedi'i gosod gan Llywodraeth Cymru.

"Yn cychwyn yr wythnos nesaf, ddydd Llun 23 Ionawr 2023, byddwn yn dechrau casglu bagiau glas ar gyfer deunydd ailgylchu sych bob wythnos ochr yn ochr â'r bin gwyrdd ar gyfer eich gwastraff bwyd. Bellach bydd bagiau du yn cael eu casglu bob tair wythnos a gallwch roi hyd at 3 bag du mas bob 3 wythnos.

“Byddwn hefyd yn dechrau ein gwasanaeth casglu gwydr a bydd hwn yn cael ei gasglu o'ch cartref ar yr un diwrnod â'ch bagiau du, bob 3 wythnos.

"Efallai y bydd pobl yn gofyn pam ein bod ni wedi newid pa mor aml rydym yn casglu eu bagiau du.

"Mae hyn oherwydd, ar gyfartaledd, mae bron hanner y cynnwys a roddir mewn bagiau du yn ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, felly mae dal llawer mwy y gallwn ni ei wneud i leihau ein gwastraff.

“Drwy gasglu eich bagiau glas yn amlach, a thrwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau y gellir eu hailgylchu, fel gwydr, gwastraff hylendid a chewynnau, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi allan i'w gasglu.

"Mae'r cam diweddaraf hwn i gynyddu ein gallu i ailgylchu a lleihau'r hyn rydyn ni'n ei wastraffu yn ymdrech ar y cyd rhwng ein Tîm Gwastraff ac Ailgylchu a chi, bobl Sir Gaerfyrddin. Hoffwn ddweud diolch yn fawr ichi; drwy ailgylchu rydych yn gwneud gwahaniaeth mawr yn Sir Gaerfyrddin. Diolch i chi am barhau i wneud y peth iawn ac am wneud eich rhan dros yr amgylchedd, drwy ddidoli eich gwastraff ac ailgylchu'r hyn a allwch.”

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu neu os ydych chi'n dymuno cofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i wefan y Cyngor.

Cofiwch roi eich deunydd ailgylchu a'ch bagiau du yn eich man casglu cyn 6am ar eich diwrnodau casglu.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, neu i gofrestru i dderbyn neges e-bost neu neges destun i'ch atgoffa o'ch diwrnodau casglu, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu ffoniwch ni ar 01267 234567 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am tan 6pm).