Newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu a bagiau du o heddiw ymlaen

464 diwrnod yn ôl

O heddiw, 23 Ionawr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynyddi ei chasgliadau ailgylchi ar draws y sir.

Cliciwch yma i ddarllen Cwestiynau Cyffredin am ein casgliadau ailgylchi a gwastraff.

Bydd bagiau glas, ar gyfer deunydd ailgylchu sych, bellach yn cael eu casglu bob wythnos, ochr yn ochr â'r bin gwyrdd ar gyfer eich gwastraff bwyd.

Byddwn yn casglu eich bagiau du, ar gyfer eich gwastraff cartref sy'n weddill na ellir ei ailgylchu, bob 3 wythnos. Gallwch roi hyd at 3 bag du allan bob 3 wythnos.

Mae preswylwyr wedi derbyn pecyn gwybodaeth a chalendr casglu, sydd yn egluro’r newidiadau i’r gwasanaeth ac yn dangos yn glir eu dyddiadau casglu ar gyfer 2023.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyflwyno gwasanaeth casglu newydd ar gyfer poteli gwydr a jariau, a fydd yn cael eu casglu bob 3 wythnos. I’r cartefi sydd yn derbyn y gwsanaeth newydd hwn, bydd eich diwrnod casglu ar yr un diwrnod â'ch casgliadau bagiau du.  Gallwch gyfeirio at eich pecyn wybodaeth i wybod pa ddiwrnodau ac wythnosau y mae casgliadau yn cael eu gwneud neu gallwch wirio trwy y gwirydd côd post ar ein gwefan. Gallwch hefyd gofrestri gyda’n gwasanaeth neges destun ac ebost, newydd sbon, er mwyn derbyn neges i’ch atgoffa y noson cyn eich casgliad nesaf.

Mae'n bwysig nodi y bydd gwydr a bagiau du yn cael ei gasglu gan gerbydau ar wahân ac efallai y bydd hyn yn digwydd ar wahanol adegau yn ystod y diwrnod casglu. Erbyn hyn, mae’r Cyngor wedi dosbarthu bocs du i gartrefi ar draws y sir i ddal poteli gwydr a jariau er mwyn eu casglu, ynghyd â chyflenwad blwyddyn o fagiau glas a bagiau leinio gwastraff bwyd ar gyfer cadis cegin brown.

Os nad ydych eto wedi cael eich pecyn neu'r cynwysyddion ailgylchu hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni, y Cyngor, trwy ein gwefan.

Os oes gennych fwy o fagiau glas nag sydd eu hangen arnoch, rhowch nhw i deulu neu ffrindiau a allai fod angen cyflenwad ychwanegol neu ewch â nhw'n ôl i un o'n Canolfannau Hwb yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“O heddiw ymlaen, 23 Ionawr, byddwn ni fel sir yn ailgylchi mwy.

“Drwy gasglu eich bagiau glas yn amlach, a thrwy gasglu hyd yn oed mwy o eitemau y gellir eu hailgylchu, fel gwydr, gwastraff hylendid a chewynnau, bydd gennych lai o wastraff na ellir ei ailgylchu i'w roi allan i'w gasglu.

“Y rheswm pam y byddwn ni bellach yn casglu bagiau du bob tair wythnos yw, ar gyfartaledd, mae bron hanner y cynnwys a roddir mewn bagiau du yn ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, felly mae dal llawer mwy y gallwn ni ei wneud i leihau ein gwastraff.

“Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir i wella llesiant Sir Gaerfyrddin, ei breswylwyr a’i chenedlaethau yn y dyfodol.

"Hoffwn ddiolch i’n Tîm Gwastraff ac Ailgylchu am eu gwaith caled ac ymroddiad i wella gallu y Cyngor i ailgylchu ac i’r cyhoedd am barhau i wneud y peth iawn a gwneud eich rhan dros yr amgylchedd, drwy ddidoli eich gwastraff ac ailgylchu'r hyn a allwch.”

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu neu os ydych chi'n dymuno cofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i wefan y Cyngor.

Cofiwch roi eich deunydd ailgylchu a'ch bagiau du yn eich man casglu cyn 6am ar eich diwrnodau casglu.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, neu i gofrestru i dderbyn neges e-bost neu neges destun i'ch atgoffa o'ch diwrnodau casglu, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu ffoniwch ni ar 01267 234567 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am tan 6pm).