‘Nawr Yw'r Amser' Maethu Cymru

464 diwrnod yn ôl

“Mae yna lawer o blant a fyddai’n elwa o’ch profiadau bywyd, o ba bynnag gefndir rydych chi’n dod.”

Adleoli, ymddeol, ailbriodi, neu'n syml iawn, eisiau rhoi yn ôl i'r gymuned leol.

Mewn cyfres newydd sbon o vlogiau, mae gofalwyr maeth o bob rhan o Gymru wedi dod at ei gilydd i archwilio’r rhesymau, profiadau bywyd a newidiadau a arweiniodd at ddod yn ofalwyr.

Bydd y gyfres chwe phennod yn galluogi darpar ofalwyr maeth i gydnabod y profiadau bywyd gwerthfawr sydd ganddynt eisoes, a allai eu helpu i ddod yn ofalwyr maeth cyflawn a chefnogol yn eu cymunedau.

Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys y 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd y penodau’n cael eu rhyddhau’n wythnosol ar wefan Maethu Cymru, cyfryngau cymdeithasol a sianeli YouTube, ac yn darparu sgwrs onest ac agored rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir.

Recordiwyd y sgyrsiau ym mis Rhagfyr 2022, gyda’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd profiadol Mai Davies yn cynnal y sgyrsiau.

Mewn un bennod arbennig o deimladwy mae Cath o Sir Ddinbych yn trafod ei thaith. 

Dywed Cath ei bod yn ymwybodol bod gan rai pobl syniad yn eu pen o sut olwg sydd ar faethu.

Dywed Cath ei bod yn ymwybodol bod gan rai pobl syniad yn eu pen o sut olwg sydd ar faethu.

“Rwy’n meddwl bod canfyddiad pobl o fod yn ofalwr maeth yn rhywbeth nad ydyn nhw.

“Mae llawer o bobl yn dweud pan fyddwch chi allan, 'Byddwn i wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth ond dwi ddim yn siŵr' ac rydw i bob amser yn dweud, ffoniwch i ofyn, fydd neb byth yn curo ar eich drws yn gofyn os ydych am fod yn ofalwr maeth.

“Mae rhai o’r plant hyn wedi cael profiadau erbyn eu bod yn 5 oed na fydd pobl byth yn eu cael yn eu bywydau, a’r cyfan sydd ei angen yw cael yr empathi, y ddealltwriaeth a’r agwedd anfeirniadol honno.”

Dywedodd Beth a James (y ddau'n 51 oed) o Sir Gaerfyrddin:

"Mae maethu yn rhywbeth roedden ni ein dau am ei wneud ond oherwydd gwaith amser llawn nid oedd gennym yr amser na'r egni sydd eu hangen. Fodd bynnag, roeddem yn gallu symud pethau yn eu blaenau yn 2017 pan symudon ni yn ôl i Gymru. Mae gan y ddau ohonom gymaint i'w roi ac yn teimlo mai buddsoddi sy'n hollbwysig. Roedden ni hefyd yn teimlo y gallen ni gynnig cartref am byth; dyma ein cyfle i helpu person ifanc i dyfu a datblygu gan gynnig cyfleoedd ysgogol a sefydlogol. Mae'n anodd ar adegau ond yn fwy na dim mae'n gyfle i frodio ein profiadau ar dapestri person ifanc yn y gobaith ein bod yn helpu i feithrin gwytnwch ar gyfer ei ddyfodol".

Yn y cyfamser dechreuodd Jenny o Sir y Fflint faethu pan oedd yn 66 oed ar ôl i'w gŵr farw, ar ôl meddwl i ddechrau y gallai fod yn rhy hen.

Nawr, mae Jenny yn meddwl bod gan ei hoedran fanteision wrth faethu.

“Lle dw i’n byw, bydd y plant ar y stryd yn chwarae gyda’r plant sy’n dod ata i, a byddan nhw’n dweud, ‘ai dy Nain di yw honna?’ Ac wrth gwrs, maen nhw’n dweud ie achos mae’n haws, does dim rhaid iddynt ddweud; wel na mewn gwirionedd hi yw fy ngofalwr maeth ac mae hi'n gofalu amdana i, oherwydd mae hynny'n lletchwith.

“Maen nhw'n fy ngweld i fel rhyw fath o ffigwr tebyg i nain, ac rydw i'n eu difetha nhw dipyn oherwydd dyna beth yw pwrpas mam-gu.”

Mae Jenny hefyd yn siarad yn gynnes am lefel y cymorth sydd ar gael gan yr awdurdod lleol a hefyd y gymuned gofal maeth.

“Dydy pobl ddim yn deall lefel y gefnogaeth, nid yw’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol yn eich cefnogi yn unig, mae’n ymwneud â gofalwyr maeth eraill yn eich cefnogi oherwydd eich bod yn gwneud ffrindiau yn y gymuned.”

“Bydd pobl eraill sydd â phrofiadau gwahanol yn gallu eich cynghori ar sut i weithio gyda phlant penodol oherwydd eu bod wedi cyfarfod â phlant tebyg o’r blaen.”

Mae Roger, 70, yn byw yng Ngheredigion yn ac teimlo bod ei brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi ei arwain at fod eisiau helpu a gofalu am blant maeth.

Dywedodd Roger:

“Ces i ddim plentyndod hapus, ac rydw i’n teimlo y byddwn i’n hoffi helpu plant nad ydyn nhw’n cael plentyndod hapus, mae yna empathi iddyn nhw.”

Fel gofalwr maeth sengl, mae Roger yn dweud, er y gall fod yn anodd ar adegau, y gall fod â’i fanteision hefyd.

“Mae rhywfaint o ragfarn o hyd ynghylch dynion yn maethu ar eu pen eu hunain.

“Mewn rhai ffyrdd, mae’n haws maethu ar eich pen eich hun gan nad oes rhaid i bwyllgor dau berson wneud popeth, gallwch chi wneud y penderfyniadau ac mae’r cyfrifoldeb yn amlwg yn disgyn arnoch chi, ond mae’n symlach.”

“Mae fel bod yn rhan o dîm, rwy’n meddwl fel gofalwr sengl, heb y tîm ni allech chi ei wneud.”Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:

“Mae gennym ni ofalwyr maeth o bob cefndir yn gofalu am ein plant o fewn Maethu Cymru.

“Rydym angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau ac sydd ag amrywiaeth o brofiadau bywyd i faethu oherwydd mae gennym ystod amrywiol o blant sydd angen y gofal, y gefnogaeth a’r cariad hwnnw o fewn ein hawdurdodau lleol - plant sydd angen y cyfle i ffynnu ac aros yn eu cymunedau lleol eu hunain. Dyna hanfod maethu ar gyfer eich awdurdod lleol.

 P'un a ydych wedi meddwl am faethu yn ddiweddar neu am y deng mlynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n cysylltu â'ch tîm Maethu Cymru lleol. Byddwn yn eich helpu i ystyried ai nawr yw'r amser i chi a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith faethu."

I ddarganfod mwy am faethu yn Sir Gar, ewch i https://sirgar.maethucymru.llyw.cymru/neu ffoniwch 0800 223 0627.