Digwyddiadau a Dyddiadau Codi Ymwybyddiaeth
Diwrnod y Gymanwlad
Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis
Heno, dydd Gwener 10 Mawrth, bydd Neuadd y Sir wedi ei oleuo'n felyn i godi ymwybyddiaeth o Endometriosis.
Am wybodaeth a chefnogaeth, ewch i https://www.endometriosis-uk.org/endometriosis-action-month-2023
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Dydd Gŵyl Dewi
Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb wrth i ni ddathlu dydd nawddsant Cymru.
Diwrnod Enseffalitis y Byd
Diwrnod Enseffalitis y Byd ar ddydd Mercher, yr 22ain o Chwefror, yw'r diwrnod ymwybyddiaeth byd-eang i bobl sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan enseffalitis.
Diwrnod Cofio'r Holocost
Mae'n Ddiwrnod Cofio'r Holocost ar ddydd Gwener, 27 Ionawr. Diwrnod ar gyfer myfyrio a chofio'r miliynau o bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd.
Bydd digwyddiad Coffáu Ar-lein y DU ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 yn cael ei ffrydio ar-lein heno rhwng 7:00pm a 7:45pm.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost | Digwyddiad Coffáu Ar-lein Diwrnod Cofio'r Holocost
White Ribbon
Rydym yn falch o gefnogi White Ribbon UK heddiw drwy chwifio baneri yn adeiladau'r Cyngor yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Byddwn ni hefyd yn goleuo Neuadd y Sir yn borffor heno i nodi'r achlysur.
Diwrnod Canser y Pancreas
Heno, bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo'n borffor i gefnogi Diwrnod Canser y Pancreas y Byd ac i gofio am anwyliaid sydd wedi marw o ganser y pancreas ac i gydnabod y rhai sy'n byw â'r clefyd neu sydd wedi gwella ar ôl cael y clefyd.
I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.pancreaticcancer.org.uk/get-involved/make-a-difference/pancreatic-cancer-awareness-month-pcam/
Diwrnod Y Cofio
Heno a dydd Sul 13 Tachwedd, bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo yn goch wrth i ni fyfyrio a chofio aberth ein Lluoedd Arfog, a phawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel neu derfysgaeth. Cofiwn amdanyn nhw #DiwrnodYCofio
Syndrom Tacycardia Orthostatig Osgo (POTS)
Byddwn yn goleuo Neuadd y Sir yn borffor heno i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth am y cyflwr Syndrom Tacycardia Orthostatig Osgo.
(POTS - Postural Orthostatic Tachycardia Syndrome)
Mwy o wybodaeth am POTS: https://www.potsuk.org.uk/
Dydd Arthritis Y Byd
Mae ein goleuadau'n las heddiw oherwydd #DyddArthritisYByd, diwrnod arbennig i dynnu sylw at effaith arthritis a MSK.
Os ydych chi’n byw gydag arthritis ac angen help, gall Versus Arthritis eich helpu: versusarthritis.org/get-help @CymruVArthritis #WorldArthritisDay
Wythnos Ymwybyddiaeth ynghylch Colli Babi
Heno, byddwn ni'n goleuo Neuadd y Sir Caerfyrddin yn binc ac yn las i ddangos cefnogaeth i rieni mewn profedigaeth, eu teuluoedd a'u ffrindiau, sy'n dymuno cofio am fabis a fu farw yn ystod beichiogrwydd, yn ystod genedigaeth, ar ôl cael eu geni neu'n ifanc.
Mae'r golau'n symboleiddio cefnogaeth y cyngor i Wythnos Ymwybyddiaeth ynghylch Colli Babi (rhwng 9 a 15 Hydref), a'r rheiny sydd wedi profi colled.
Gellir cael gwybodaeth a chymorth ynghylch y mater hwn ar-lein, fan hyn: https://goo.gl/582beH
Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Heddiw, rydym yn anrhydeddu Diwrnod y Gwasanaethau Brys drwy godi banner Diwrnod999DU yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin a neuaddau tref Rhydaman a Llanelli. Ymunwch â ni i dalu teyrnged i bawb sydd yn ein cadw'n ddiogel. Diolch.
Diwrnod Annibyniaeth Wcráin
I nodi Diwrnod Annibyniaeth Wcráin, byddwn yn goleuo Neuadd y Sir mewn glas a melyn i ddangos ein hundod wrth i ni sefyll gyda phobl Wcráin a pharhau i’w cefnogi yn ystod yr argyfwng parhaus.
Rydym yn goleuo Neuadd y Sir yn felyn heno i hyrwyddo #StJohnsDay2022
Rydym yn goleuo Neuadd y Sir yn felyn heno i hyrwyddo #StJohnsDay2022, rydym yn cydnabod gwaith anhygoel St John Ambulance Cymru, staff a gwirfoddolwyr. Diolch am bob peth rydych yn ei wneud ac yn parhau i wneud i’n cadw’n ddiogel. https://www.sjacymru.org.uk/