Digwyddiadau a Dyddiadau Codi Ymwybyddiaeth

17 diwrnod yn ôl

20 Tachwedd, Canser y Pancreas y Byd

I nodi Diwrnod Canser y Pancreas y Byd, bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo'n borffor nos Iau, 20 Tachwedd. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ar wefan Canser y Pancreas.

25 Tachwedd, Diwrnod y Rhuban Gwyn

I nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mawrth, 25 Tachwedd, bydd baner y Rhuban Gwyn, baner Cymru a baner Wcráin yn cael eu chwifio yn Neuadd y Dref, Rhydaman a Neuadd y Dref, Llanelli. Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo'n borffor ar y noson. Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cael ei nodi bob blwyddyn fel rhan o ymgyrch ryngwladol i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Diwrnod y Rhuban Gwyn.