Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cael ei sgorio fel 'Rhagorol'

36 diwrnod yn ôl

Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid (TCI) Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei sgorio fel ‘Rhagorol’ gan Arolygiaeth Prawf EF yn ei harolygiad o wasanaethau troseddu ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin, a gyhoeddwyd ddydd Llun, 18 Mawrth 2024.

Cliciwch yma i ddarllen yr arolygiad yn llawn.

Mae’r arolygiad yn rhan o raglen Arolygiaeth Prawf EF o arolygiadau o dimau cyfiawnder ieuenctid (TCI) ac mae wedi arolygu a sgorio TCI Sir Gaerfyrddin mewn tri maes cyffredinol: y trefniadau ar gyfer cyflawni sefydliadol y gwasanaeth, ansawdd y gwaith a wneir â phlant sy’n cael eu dedfrydu gan y llysoedd, ac ansawdd datrysiadau y tu allan i’r llys.

Ar y cyfan, cafodd TCI Sir Gaerfyrddin ei sgorio fel ‘Rhagorol’. Bu'r Arolygiaeth Prawf EF hefyd yn arolygu safon y polisi a’r ddarpariaeth ailsefydlu, a gafodd ei sgorio ar wahân fel ‘Rhagorol’.

Cydnabu'r arolygiad fod staff yn adnabod ac yn deall eu plant a’u teuluoedd yn dda, a gwelodd waith o safon uchel yn cael ei wneud. Hefyd, nodwyd bod lefel uchel o ofal ac ymroddiad i’r staff, plant, a dioddefwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth, sy’n ymestyn o uwch arweinyddion i staff gweithredol.

Canfu'r arolygiad bod y TCI wedi buddsoddi yn ei staff, gan gynnig pecyn hyfforddi cynhwysfawr a chyfleoedd rheolaidd i ddatblygu a chael dyrchafiad. Dywedwyd bod y staff wedi’u symbylu, a'u bod yn frwd, a bod eu gwaith caled yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo’n rheolaidd. Mae’r bwrdd rheoli wedi ymrwymo i’r TCI; mae wedi eiriol yn barhaus ar ran y gwasanaeth ac wedi ei helpu’n rhagweithiol i sicrhau’r canlyniadau gorau i blant, teuluoedd, a dioddefwyr.

Nododd yr adroddiad fod y TCI yn uchel iawn ei barch o fewn y bartneriaeth. Mae arweinyddiaeth gref, fywiog a chyson wedi galluogi’r gwasanaeth i weithredu ei weledigaeth a’i strategaeth yn effeithiol. Gwelwyd bod ymrwymiad i ystyried nodweddion gwarchodedig y plant hynny mae’r gwasanaeth yn gweithio â hwy. Er bod rhai elfennau o hyn yn parhau yn eu camau cynnar, maent yn dangos addewid.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg wedi hen sefydlu’i hun. Mae trefniadau partneriaeth aeddfed a chydlynus sy’n galluogi plant a theuluoedd i ddefnyddio ystod o wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys lleferydd, iaith, a therapi cyfathrebu, cymorth addysg cofleidiol, ac ymyriad arbenigol i blant sy’n dangos ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae darpariaeth y bartneriaeth hefyd wedi sicrhau staff sydd wedi’u secondio o’r heddlu a phrawf sydd wedi cael eu lleoli â’r TCI.

Dywedodd Arolygiaeth Prawf EF fod y ddarpariaeth gwneud iawn wedi gwneud argraff; gan dynnu sylw at y gwaith y mae’r gwasanaeth wedi'i wneud gyda’r gymuned i lunio a darparu prosiectau ystyrlon sy’n cael effaith. Mae plant wedi gallu datblygu sgiliau yn ogystal ag ymwneud â chyfiawnder adferol.

Canfyddiadau Arolygiaeth Prawf EF oedd bod y gwasanaeth yn mynd ati’n rhagweithiol i ganfod cyfleoedd i ddysgu ac i wella’r gwasanaethau a ddarperir ganddo i’r sector ehangach. Mae hyn yn cynnwys gwaith gyda phartneriaid yn yr heddlu i fabwysiadu a lleoleiddio dull ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal i beidio cael eu trin fel troseddwyr ac i ddod i gysylltiad diangen â’r system cyfiawnder.

Yn olaf, daeth yr arolygiad i'r casgliad bod fframwaith sicrhau ansawdd cadarn ar waith sydd wedi arwain at ymarfer a gwaith achos o safon uchel. Mae goruchwyliaeth y rheolwyr yn effeithiol a gwelir hynny mewn canlyniadau cryf o’r samplau o achosion arolygu ar ôl y llys, y tu allan i’r llys ac ailsefydlu.

Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Caerfyrddin, a Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant:

Rydym yn hynod falch o bob aelod o'n Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ac yn ddiolchgar am eu gwaith pwysig iawn sy'n cael ei wneud i'r safonau uchaf oll. 
Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn arweinwyr yn eu sector ac mae ganddynt rôl hanfodol o ran amcan llesiant yr awdurdod lleol i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.”

 

Rôl Arolygiaeth Prawf EF

Arolygiaeth Prawf EF yw arolygydd annibynnol gwasanaethau prawf a throseddu ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Mae'n adrodd ar effeithiolrwydd gwaith gwasanaethau prawf a throseddu ieuenctid gydag oedolion a phlant.