Mae Platfform Gwirfoddoli Actif yn fyw!

32 diwrnod yn ôl

Mae gan Actif fenter wirfoddoli newydd gyffrous - Platfform Gwirfoddoli Actif.

Nod Platfform Gwirfoddoli Actif, sy'n cael ei weinyddu gan Chwaraeon a Hamdden Actif, yw hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli ledled Sir Gaerfyrddin drwy gysylltu pobl sydd am wirfoddoli â sefydliadau sydd eisiau gwirfoddolwyr ym maes chwaraeon a hamdden.

Dywedodd Ian Jones, Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud newidiadau cadarnhaol mewn cymdeithas. Mae'r fenter yn agored i unrhyw un sydd eisiau dysgu sgiliau, ennill profiad neu wella ei lesiant ei hun.

P'un a ydych chi'n wirfoddolwr profiadol neu'n dymuno rhoi cynnig ar wirfoddoli am y tro cyntaf, gall Platfform Gwirfoddoli Actif helpu. I'r gwrthwyneb, os ydych chi'n glwb, yn grŵp cymunedol, neu'n sefydliad sy'n chwilio am wirfoddolwyr ym maes chwaraeon a hamdden, yna mae'n hawdd cymryd rhan -cliciwch yma a dechrau arni heddiw!