Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros gyfnod y Pasg

22 diwrnod yn ôl

Nid oes unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau dros Ddydd Gwener y Groglith (29 Mawrth) a dydd Llun y Pasg (1 Ebrill).

Rhowch eich sbwriel mas cyn 6am ar eich diwrnod casglu arferol. Bydd gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.

Er ein bod yn bwriadu casglu yn ôl yr arfer ar y ddwy ŵyl banc, efallai y bydd rhywfaint o darfu lleol a gallai'r trefniadau newid ar fyr rybudd. Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am unrhyw ddiweddariadau.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman) a Hendy-Gwyn ar Daf ar agor. Gallwch weld eu horiau agor yma.

Diolch yn fawr am ailgylchu.