Cyngor yn adfer mawnog Comin Figyn

37 diwrnod yn ôl

Mae Adain Cadwraeth Wledig Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal gwaith pwysig i helpu i adfer mawnog werthfawr yn Sir Gaerfyrddin.

Mae dŵr wedi bod yn gollwng o'r gors ar Gomin Figyn ger Llanfynydd, felly comisiynwyd contractwyr arbenigol i greu bwnd hir yn y gors i helpu i gadw'r dŵr i mewn. Dylai hyn gynyddu gallu'r gors i storio carbon a chefnogi bywyd gwyllt gwerthfawr yn yr ardal.

Ffurfiwyd mawnogydd yr iseldir dros filoedd o flynyddoedd ac maen nhw'n enghreifftiau mwyfwy prin o gynefinoedd mawnog pwysig sy'n cynnal bywyd gwyllt sy'n arbenigol ond sydd hefyd dan fygythiad yn aml iawn. Tybir bod y rhain yn ardaloedd diffaith heb fawr i'w weld, ond wrth astudio'n fwy manwl bydd mawnogydd iseldir yn datgelu rhai planhigion rhyfeddol, megis llugaeron ac adar fel Cwtiad Aur ac, os ydych chi'n lwcus iawn, Boda Tinwyn.

Mae'r cynllun adfer wedi cael ei ariannu drwy gynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.


Mae gwaith adfer y fawnog ar Gomin Figyn yn cyd-fynd â Trydydd Amcan Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ei gymunedau a'i amgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Hoffwn ddiolch i'n Hadain Cadwraeth Wledig a'n contractwyr am wneud y gwaith pwysig hwn. Roedd y fawnog fel bath heb blwg ac roedd y dŵr yn gollwng, mae'r bwnd yma'n helpu i roi ‘plwg yn y bath' a chadw'r dŵr i mewn.
Mae gwarchod a gwella bioamrywiaeth ar Gomin Figyn yn gam bach ond hanfodol yn ein hymateb i newid yn yr hinsawdd a gwasanaethau ecosystem allweddol sy'n cynnwys rheoli llifogydd, peillio ac aer glân.