Adeiladwr yn cael dedfryd o garchar ar unwaith yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir Caerfyrddin

37 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau erlyniad llwyddiannus yn erbyn Craig Baker, unig Gyfarwyddwr Elite Construction and Plastering Limited a Elite Plastering and Construction Limited, ac ymddangosodd gerbron Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu. Plediodd Baker yn euog i ddau gyhuddiad o fasnachu twyllodrus, yn groes i Ddeddf Cwmnïau 2006, mewn gwrandawiad cynharach.

Roedd y cyhuddiadau, a oedd dros gwahanol gyfnodau, ynghylch sylwadau ffug ac arferion twyllodrus Baker o ran ei waith adeiladu. Roedd y cyhuddiad cyntaf yn berthnasol i'r cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 11 Mai, 2022, ac yn cynnwys rhoi dyfynbrisiau cychwynnol anghywir fel cyfanswm cost y gwaith, camarwain ynghylch gwerth y gwaith, ac ymgymryd i gwblhau gwaith i safon adeiladwr proffesiynol rhesymol gymwys ar gam. Roedd yr ail gyhuddiad yn berthnasol i'r cyfnod rhwng 26 Gorffennaf 2021 a 27 Ebrill 2022, ac yn cynnwys codi gormod o dâl, camarwain pellach ynghylch gwerth y gwaith ac ymgymryd i gwblhau gwaith i safon benodol ar gam.

Datgelodd ymchwiliad gan Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin fod Baker, gyda swyddfeydd cofrestredig yn Heol Spilman, Caerfyrddin, ac Is-y-Llan, Llanddarog, wedi twyllo defnyddwyr o dros £30,000 am waith adeiladu.

Mewn un achos, adeiladodd Baker ystafell haul ar gyfer eiddo, ac yn ddiweddarach dywedodd Syrfëwr Arbenigol  nad oedd gwerth o gwbl i'r gwaith ac roedd angen dymchwel ac ailadeiladu. Aeth y syrfëwr ymlaen i ddisgrifio manylion yr adeiladu fel "rhai o'r gwaethaf" a ddaeth ar eu traws yn eu 24 mlynedd o arolygu.

Oherwydd ei weithredoedd, roedd y Barnwr Paul Thomas wedi dedfrydu Craig Baker i 3 blynedd a 4 mis yn y carchar, gyda chredyd o 20% yn lleihau'r tymor i 32 mis (2 flynedd ac 8 mis). Bydd Baker yn treulio hanner y ddedfryd hon yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar drwydded.

Meddai Jonathan Morgan, Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel:

“Hoffwn ddiolch i aelodau'r tîm am eu holl waith caled wrth erlyn yr achos hwn.
Mae eu hymrwymiad yn adlewyrchu ein penderfyniad ar y cyd fel cyngor i fynd ar drywydd cyfiawnder, gan anfon neges glir na fyddwn yn goddef gweithredoedd sy'n peryglu diogelwch ac uniondeb ein cymunedau.”

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog defnyddwyr y mae arferion o'r fath yn effeithio arnynt i gyfeirio at wasanaethau defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yma i gael cymorth ac arweiniad.