Dadorchuddio Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn

399 diwrnod yn ôl

Cyn ei agoriad swyddogol ar 31 Mawrth, mae trigolion Pentywyn a gwahoddedigion wedi bod ymysg y grŵp cyntaf o bobl i fwynhau taith o amgylch y cyfleuster Denu Twristiaid newydd sbon ar lan y môr ym Mhentywyn.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.

Nod Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn yw gwneud y gorau o dreftadaeth ac asedau naturiol Pentywyn er mwyn hybu adfywiad economaidd y lleoliad yn y dyfodol fel cyrchfan ddigwyddiadau 'diwrnod ac aros'. Mae'n cynnwys tri phrosiect unigol, sydd hefyd yn ategu ei gilydd, sy'n cynnig y cyfleusterau allweddol canlynol:

  • Llety "Caban" - Mae Caban, sy'n agor ar 31 Mawrth, yn llety newydd sbon â 14 ystafell a 43 gwely sydd wedi'i adeiladu gan ddefnyddio technolegau adeiladu cynaliadwy. Mae Caban, sy'n edrych dros y traeth, hefyd yn cynnwys bwyty a bydd yn darparu ar gyfer y farchnad gwyliau cerdded a chwaraeon antur awyr agored yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am brofiad arfordirol.
  • Maes chwarae antur, sy'n agor ar 31 Mawrth, ynghyd ag ardal ddigwyddiadau, rhodfa arddangos sy'n cynnig llwyfannau i gynnal digwyddiadau; ardal chwaraeon ar y tywod; gwell cyfleusterau parcio a'r Gerddi Twyni sy'n darparu seddau a llwybrau dehongli.
  • Bydd yr Amgueddfa Cyflymder, sy'n agor ddiwedd mis Mai, yn arddangos ceir modur a phethau cofiadwy sy'n gysylltiedig â chyflymder ar dir. Bydd parthau rhyngweithiol ym mhob rhan o'r amgueddfa a fydd yn caniatáu i ymwelwyr ymgysylltu, gwrando a dysgu am straeon am Bentywyn a recordiau cyflymder ar dir.

 

Mae cyfleuster ar gyfer 10 o gartrefi modur, a fydd yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Cymuned Pentywyn, hefyd wedi'i gynnwys yn y prif gynllun ehangach.

Cafodd Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn ei ddatblygu yn sgil ymgysylltu ac ymgynghori'n helaeth â'r gymuned, ac adeiladwyd y cyfleuster gan Andrew Scott.

Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid o £3m drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop fel rhan o Gynllun Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru; £1.5m gan Croeso Cymru sef arian cyfatebol a dargedir gan Lywodraeth Cymru; £128,000 o'r Gronfa ar gyfer Cymorth Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth a ariennir gan y Cynllun Datblygu Gwledig i ariannu'r ardal chwaraeon ar y tywod, a £984,000 o Gronfa Ysgogi Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Mae'r gweddill yn arian cyfatebol gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae'n gyffrous iawn cael taith o gwmpas y Prosiect Denu Twristiaid newydd sbon, yma ym Mhentywyn.

“Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddarparu'r cyfleuster rhagorol hwn, a fydd yn hyrwyddo enw da Pentywyn fel cyrchfan 'diwrnod ac aros' drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr, yn darparu ar gyfer 41 o swyddi ac yn cynhyrchu £3 miliwn y flwyddyn i'r economi ranbarthol.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld drysau'r Prosiect Denu Twristiaid yn cael eu hagor yn swyddogol yn ystod gwyliau'r Pasg a chroesawu ymwelwyr i'r rhan hardd hon o Sir Gaerfyrddin.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae'n bleser bod ymhlith y rhai cyntaf i ymweld â'r datblygiad newydd cyffrous hwn yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn helpu i ddarparu ar gyfer 41 o swyddi newydd.  Nod y rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw datblygu prosiectau a fydd yn gwella ansawdd cyrchfannau yng Nghymru a chanfyddiadau pobl ohonynt, ac mae traeth eiconig Pentywyn yn gefndir ardderchog i'r datblygiadau newydd hyn a fydd o fudd i'r trigolion ac i'r rhai sy'n ymweld â'r ardal.”

Bydd Caban a'r Maes Chwarae Antur yn cael eu hagor i'r cyhoedd ddydd Gwener, 31 Mawrth.

Bydd yr Amgueddfa Cyflymder yn cael ei hagor i'r cyhoedd ddiwedd mis Mai 2023.