Ychydig dros bythefnos yn weddill i ddweud eich dweud ar Ymgynghoriad ar y Gyllideb

469 diwrnod yn ôl

Dim ond 2 wythnos sydd ar ôl i chi fedru dweud eich dweud ar Ymgynghoriad Cyllideb Cyngor Sir Gâr.

Rhwng Rhagfyr 21 a Ionawr 29, mae trigolion, busnesau, a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol Sir Gaerfyrddin yn cael ei gwahodd i leisio eu barn ar ystod eang o gynigion i arbed arian, a daw'r rhain o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor.

CLICIWCH YMA I GAEL MYNEDIAD I'R YMGYNGHORIAD AR Y GYLLIDEB AR GYFER 2023

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis y Dreth Gyngor, a refeniw o grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.

Mae penderfyniadau anodd iawn yn wynebu Cyngor Sir Gâr, er mwyn gosod cyllideb gytbwys yn 2023-24, gan fod ei gostau ynni wedi treblu ac mae'r codiad cyflog i staff, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn llawer uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer 12 mis yn ôl, oherwydd y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant.

Mae costau cynyddol chwyddiant, ynghyd â phrisiau bwyd ac ynni a mwy o alwadau byd-eang am nwyddau a gwasanaethau, yn golygu bod y Cyngor yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Mae gan yr arolwg ar-lein, sydd wedi mynd yn fyw heddiw (21 Rhagfyr 2022), gyfanswm o 17 o gynigion cyllideb ac mae'n rhoi cyfle i drigolion fynegi eu barn am y cynnydd yn y dreth gyngor a thaliadau masnachol megis prydau ysgol, gwasanaethau hamdden, parcio ceir a diogelu'r cyhoedd. Caiff y rhain eu hystyried ochr yn ochr â thua 100 o gynigion rheolaeth manwl, fel trefniadau caffael, strwythurau staffio, a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.

Nid yw'r sefyllfa hon yn unigryw i Sir Gaerfyrddin, gan fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu diffygion mawr yn eu cyllidebau yn sgil yr hinsawdd economaidd fyd-eang.

Yn dilyn setliad cyllido Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach yn gwybod bydd angen iddo bontio diffyg o dros £20miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod mai hon yw un o'r cyllidebau anoddaf mae wedi'i phennu erioed, ac felly bydd yr arian a ddyrennir i awdurdodau lleol, sydd tua thri chwarter ein cyllid, yn brin iawn o'r hyn sydd ei angen ar y Cyngor i barhau gyda gwasanaethau fel y maent ar hyn o bryd.  Mae'r Dreth Gyngor yn codi tua £92miliwn y flwyddyn ac yn cyfrannu tua chwarter cyfanswm y gyllideb flynyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Er gwaethaf y cynnydd o 8.5% yn y setliad gan Lywodraeth Cymru, hon fydd y gyllideb ariannol waethaf yn hanes Cyngor Sir Caerfyrddin, ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

"Ni welwyd y fath bwysau ariannol erioed o'r blaen, ac rydym yn cael ein gorfodi i wneud y pethau hyn gan fod yr amgylchiadau tu hwnt i'n rheolaeth ni.

“Mae costau ynni deirgwaith yn fwy, yn rhannol oherwydd y rhyfel yn Wcráin, sy'n golygu y bydd yn costio £10million ychwanegol i ni, y Cyngor, gynnal ein hadeiladau - sy'n cynnwys ysgolion, cartrefi preswyl a chanolfannau hamdden.   

“Mae'n rhaid ystyried chwyddiant a'i effaith ar gyflogau hefyd. Y llynedd, cyllidebwyd 4% ar gyfer codiadau cyflog ond ni allai neb fod wedi rhagweld lefel chwyddiant o 10% a'r gofynion cyflog llawer uwch wedi hynny. Rydym wedi cytuno gyda'r undebau, fel y mae pob awdurdod lleol wedi'i wneud, i gynnig codiad cyflog o £1,925 i'n holl weithwyr. Mae hyn yn cyfateb i godiad cyflog o 10% ar gyfer y staff sy'n derbyn y cyflogau isaf, a chyfartaledd o 7% ar draws gweithlu'r Cyngor, ac mae'r codiadau hyn yn gwbl haeddiannol.

“Rydym wedi bod trwy ein cyllid gyda chrib fân, ac rydym yn benderfynol o achub ein gwasanaethau rheng flaen. Ond bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn a cheisio gwneud arbedion ar draws yr holl wasanaethau rydym ni, fel Cyngor, yn eu darparu.

“Fel cynghorau lleol, rydym wedi wynebu dros ddegawd o doriadau i'n cyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn gwirionedd, yn Sir Gaerfyrddin, rydym dros £100m yn waeth ein byd nag yr oeddem ddegawd yn ôl.

“Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn ymgysylltu â ni ynghylch y set o gynigion rydym wedi'u cyhoeddi heddiw. Mae'n bosib iawn fydd y cynigion hyn yn amhoblogaidd, ond credwn mai'r rhain sydd lleiaf niweidiol o ran arbed arian, cynyddu incwm, a chwtogi gwasanaethau.  Byddwn i’n annog pawb i gwblhau'r arolwg ar-lein.”

Agorwyd yr ymgynghoriad ar y gyllideb ar Rhagfyr 21, felly gall pobl ddweud eu dweud ar gynigion drafft y gyllideb.

Bydd y Cynghorwyr yn ystyried y farn a fynegir yn yr ymgynghoriad hwn, ochr yn ochr â chynigion rheolaethol, gwerth tua £13million pan gaiff y gyllideb ei chymeradwyo'n derfynol gan y Cyngor Sir llawn ym mis Mawrth 2023.

Gall pobl rannu eu sylwadau ar-lein www.sirgar.llyw.cymru/ymgynghoriadau  neu drwy fynd i un o ganolfannau Hwb gwasanaeth cwsmeriaid y Cyngor yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.

Mae'r cyfnod ymgynghori ynghylch y gyllideb yn dod i ben am 5pm ar 29 Ionawr  2023.