Her feicio elusennol yn codi £15,000 ar ôl teithio ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi Sir Gâr
7 awr yn ôl
Teithiodd tîm o feicwyr ar hyd rhannau o Lwybr Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o daith feicio elusennol heriol dros dri diwrnod a oedd wedi codi £15,000 i Goals Beyond Grass, sef elusen chwaraeon cynhwysol.
Roedd y tîm, a oedd yn cynnwys staff, myfyrwyr, llywodraethwyr, cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr o Brifysgol Hartpury a Choleg Hartpury, wedi beicio tua 180 milltir (290 cilomedr) o Dyddewi i Hartpury yn Swydd Gaerloyw. Bu'r tîm yn teithio drwy Sir Gaerfyrddin, gan aros dros nos yng Nghaerfyrddin cyn beicio ar hyd rhan o Lwybr poblogaidd Dyffryn Tywi a pharhau trwy'r Fenni i'w gyrchfan derfynol.
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn rhan o Lwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ac yn cynnig llwybr di-draffig prydferth trwy ganol Dyffryn Tywi, gan ei wneud yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer beicio hamdden a theithio llesol.
Bydd yr arian a godwyd yn cefnogi Goals Beyond Grass, elusen sy'n helpu i leihau ynysu cymdeithasol a gwella llesiant trwy feicio, pêl-droed a gweithgareddau cymunedol hygyrch. Mae gwaith y sefydliad yn galluogi miloedd o bobl bob blwyddyn i ddatblygu hyder, annibyniaeth a chysylltiadau cymdeithasol trwy chwaraeon cynhwysol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Roedd yn wych gweld yr her elusennol ysbrydoledig hon yn teithio drwy Sir Gaerfyrddin ac yn defnyddio Llwybr hardd Dyffryn Tywi. Mae'r llwybr yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y sir ar gyfer teithio llesol a hamdden, gan gynnig golygfeydd trawiadol a ffordd wych o fwynhau Dyffryn Tywi.
Mae ymroddiad pawb a gymerodd ran yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol ei chael wrth ddod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi achosion gwerth chweil. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i godi cyfanswm aruthrol o £15,000 i Goals Beyond Grass. Bydd hyn yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cynhwysol."
Dywedodd Brian Dix, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Goals Beyond Grass:
Rydyn ni wedi'n hysbrydoli'n fawr gan yr hyn y mae'r tîm wedi'i gyflawni. Mae hon yn gamp anhygoel o ddygnwch, a bydd yr arian a'r ymwybyddiaeth a godwyd drwy'r her hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n helusen. Bydd yr arian yn ein galluogi ni i gyflwyno 22 wythnos arall o'n sesiynau beicio cynhwysol, gan helpu mwy na 3,000 o bobl ag anableddau ledled Swydd Gaerloyw i gael mynediad at feicio a mwynhau'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny."
Cafodd yr her ei chefnogi gan nifer o noddwyr, gan gynnwys Aramark, Square One Network, HCR Law, EG Carter, Abi Precision Engineering, Enterprise Mobility, Two Rivers Housing ac Abbey Business Interiors, yn ogystal â gwirfoddolwyr, rhoddwyr a chefnogwyr a fu'n annog beicwyr trwy gydol y daith diwrnod.
Er bod y daith bellach wedi dod i ben, mae rhoddion yn dal i gael eu derbyn, a bydd yr arian a gaiff ei godi yn parhau i gefnogi rhaglenni chwaraeon a gweithgarwch corfforol cynhwysol.
