Mis i fynd tan Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre

2 awr yn ôl

Dim ond mis sydd i fynd nes i Barc Gwledig Pen-bre gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 ac mae tocynnau AM DDIM bellach ar gael i'w harchebu ar-lein.

 Mae'r digwyddiad sy'n cael ei gynnal ddydd Sadwrn 27 Mehefin 2026 yn rhad ac am ddim i bawb, ond mae'r trefnwyr yn annog y rhai sy'n bwriadu mynychu i gael eu tocynnau cyn y diwrnod. Ni fydd mynychwyr y digwyddiad nad ydynt wedi cael eu tocynnau ymlaen llaw yn cael eu troi i ffwrdd ar y diwrnod. Ewch i Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2026 - Darganfod Sir Gâr i gael eich tocynnau.

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r tri llu arfog – y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol – yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau cefnogol. Mae'r digwyddiad hefyd wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda'r nod o ddod â chymunedau at ei gilydd i gydnabod a diolch i'n Lluoedd Arfog.

Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol mewn rhanbarth gwahanol o Gymru ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae rhaglen lawn o weithgareddau wedi'u cynllunio rhwng 11.30am a 7.30pm, gan ddechrau gyda gorymdaith dan arweiniad Band y Cymry Brenhinol, ac yna'r seremoni agoriadol, mwy na 50 o stondinau ac adloniant llwyfan drwy gydol y dydd gydag artistiaid lleol.

Un o uchafbwyntiau'r diwrnod fydd Tîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol, mae'r arddangosfa hon yn dibynnu ar y tywydd.

Bydd y digwyddiad yn parhau gyda'r hwyr, pryd bydd cyngerdd am ddim yn y parc rhwng 5:30pm a 7:30pm. Bydd cerddoriaeth gan Newshan, a pherfformiadau gan gyn-aelodau ac aelodau presennol Loud Applause Rising Stars, gan gynnwys Lauren Williams, Liam J Edwards (a gyrhaeddodd rownd derfynol Y Llais ar S4C yn 2025), a’r prif berfformiwr sef seren y West End, Samuel Wyn Morris.

Mae mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond bydd ffioedd parcio ym Mharc Gwledig Pen-bre yn berthnasol i ymwelwyr nad ydynt yn ddeiliaid trwydded barcio flynyddol. Bydd talebau parcio yn cael eu rhoi i aelodau sy'n gwasanaethu o'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, rwy'n falch iawn o gefnogi Diwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru 2026.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni i gyd ddod at ein gilydd, anrhydeddu'r dynion a'r menywod dewr sy'n gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwasanaethu, a mwynhau diwrnod llawn gweithgareddau, cerddoriaeth a dathlu yng nghefndir gwych Parc Gwledig Pen-bre.

Rwy'n annog pawb ar draws y sir a Chymru i ymuno â ni a dangos eich cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.

Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb, gan gynnwys y Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru a chymunedau'r Lluoedd Arfog ledled y sir sy'n ein helpu i drefnu'r digwyddiad hwn.”

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys amserlen ar gyfer y diwrnod, amodau parcio, gwersylla a mwy, ewch i Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2026 - Darganfod Sir Gâr