Lansio cronfa gwerth £1 miliwn i hybu treftadaeth, twristiaeth a diwylliant Sir Gâr
3 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Cronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant newydd gwerth £1 miliwn i gefnogi prosiectau a fydd yn cryfhau'r economi leol gan ddathlu a gwella darpariaeth ddiwylliannol a threftadaeth gyfoethog y sir. Wedi'i ariannu drwy Gronfa Twf Lleol 2026-27, bydd y cynllun grant cyfalaf yn galluogi buddsoddi mewn mentrau sy'n cyfrannu at dwf rhanbarthol, yn gwella profiadau ymwelwyr ac yn arddangos hunaniaeth unigryw Sir Gâr. Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru.
Bydd y gronfa yn darparu grantiau sy'n amrywio o £25,000 i £100,000 i gefnogi'r gwaith o greu, ehangu neu foderneiddio asedau twristiaeth, diwylliant a threftadaeth ledled y sir. Bwriad y buddsoddiad wedi'i dargedu yw cyflawni amcanion strategol allweddol drwy gefnogi datblygiadau cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn ymestyn y tymor twristiaeth ac yn sicrhau bod Sir Gâr yn parhau i fod yn gyrchfan gystadleuol a deniadol i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.
Bydd prosiectau a gefnogir drwy'r gronfa yn canolbwyntio ar wella ansawdd a hygyrchedd cyfleusterau, cryfhau dehongli ac ymgysylltu, a chyflawni gwelliannau sy'n ei gwneud hi'n haws i ystod ehangach o bobl fwynhau asedau diwylliannol a threftadaeth Sir Gâr. Gallai hyn gynnwys gwelliannau i gyfleusterau i wella profiad cyffredinol ymwelwyr, adfer neu agor safleoedd treftadaeth, datblygu seilwaith a llwybrau twristiaeth, a gwelliannau sy'n galluogi atyniadau i weithredu drwy gydol y flwyddyn. Bydd y gronfa hefyd yn cefnogi gwelliannau digidol sy'n gwella hygyrchedd i brofiadau diwylliannol a threftadaeth, ochr yn ochr â datblygu seilwaith ymwelwyr cynhwysol a hygyrch mewn lleoliadau allweddol.
Mae'r Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant yn agored i ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys grwpiau gwirfoddol a chymunedol â chyfansoddiad, cyrff cyhoeddus, elusennau cofrestredig, sefydliadau nid-er-elw, mentrau cymdeithasol a Chynghorau Tref a Chymuned sy'n cyflawni prosiectau sy'n mynd y tu hwnt i'w cyfrifoldebau statudol er budd y gymuned ehangach. Mae canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol hefyd yn gymwys i wneud cais gan ddefnyddio cyfansoddiad y rhiant-sefydliad.
Rhaid i bob prosiect fod yn gyfalaf ei natur a bydd yn ofynnol iddo ddangos allbynnau a chanlyniadau clir o fewn y cyfnod cyflawni, gyda'r holl weithgarwch yn cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2027. Bydd angen i ymgeiswyr sicrhau bod modd cyflawni eu cynigion o fewn yr amserlen hon a’u bod yn gallu dangos tystiolaeth o effaith eu prosiect ar gefnogi twf economaidd, gwella mynediad a gwella'r hyn a gynigir o ran twristiaeth a diwylliant yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r buddsoddiad hwn o £1 miliwn yn gyfle sylweddol i gefnogi prosiectau sy'n dathlu popeth sy'n gwneud Sir Gâr yn unigryw. Trwy fuddsoddi yn ein treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth, gallwn greu profiadau o ansawdd uchel sy'n denu mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol ac ymestyn y tymor twristiaeth, a hefyd ar yr un pryd sicrhau bod ein cymunedau yn elwa ar well cyfleusterau a gwell mynediad at yr hyn sydd gan y sir i'w gynnig. Rydyn ni'n awyddus i annog ceisiadau gan sefydliadau sydd â phrosiectau uchelgeisiol y mae modd eu cyflawni a fydd yn cael effaith gadarnhaol barhaol ar Sir Gaerfyrddin.”
Anogir sefydliadau sydd â phrosiectau uchelgeisiol a fydd yn cael effaith i wneud cais a chwarae rôl allweddol yn llunio dyfodol treftadaeth, twristiaeth a diwylliant bywiog Sir Gâr.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Y Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant - Cyngor Sir Caerfyrddin
