Hwyl i'r Teulu yn Sir Gâr dros Hanner Tymor y Sulgwyn
20 awr yn ôl
Wrth i'r ysgolion gau ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn, mae Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau i deuluoedd fwynhau gyda'i gilydd. O anturiaethau yn yr awyr agored a phrofiadau wedi'u hysbrydoli gan natur i berfformiadau theatr, arddangosfeydd mewn amgueddfeydd a sesiynau creadigol mewn llyfrgelloedd, mae digon o ffyrdd cost isel ac am ddim ar gael i wneud y gorau o'r seibiant.
P'un a ydych chi'n chwilio am ddiwrnodau mas egnïol, ymweliadau diwylliannol hamddenol, neu rywbeth i'w wneud beth bynnag fo'r tywydd, mae gan Sir Gâr rywbeth i bobl o bob oed beth bynnag eu diddordeb.
Gallwch weld rhestr lawn o'r gweithgareddau ar dudalen 'Be sy' mlaen' Darganfod Sir Gâr:
https://www.darganfodsirgar.com/be-sy-mlaen/
I'r rhai sy'n awyddus i fod allan yn yr awyr agored, mae Llwybr Dyffryn Tywi yn Nantgaredig yn cynnal parkrun am ddim bob dydd Sadwrn am 9am, gan groesawu cyfranogwyr o bob oed a gallu i ddechrau'r penwythnos mewn modd cyfeillgar a chynhwysol.
Mae gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru raglen lawn ar gyfer y Sulgwyn, gan gynnwys Llwybr y Lindysyn Llwglyd Iawn, sy'n cael ei gynnal tan 31 Mai ac yn dod â stori annwyl Eric Carle yn fyw yng nghanol blodau'r gwanwyn. Dros benwythnos Gŵyl y Banc y Sulgwyn (24–25 Mai), gall teuluoedd hefyd fwynhau'r Quack Pack ynghyd â'r Ffair Wanwyn boblogaidd, sy'n cynnwys gweithgareddau tymhorol, atyniadau a chynnyrch lleol mewn gardd fywiog.
Yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli – Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, gall teuluoedd fwynhau Gozzle, sef antur hwyliog a rhyngweithiol dros y gwanwyn sy'n para tan 31 Mai. Yn seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant, mae'r profiad yn cynnwys llwybr awyr agored sy'n dilyn taith Gozzle yr ŵydd fach o'r adeg y mae'n deor hyd nes y mae'n mudo am y tro cyntaf, ac mae gweithgareddau hwyliog ar hyd y ffordd. Gall ymwelwyr ifanc hefyd gymryd rhan mewn sesiynau adrodd straeon a gweithgareddau ymarferol, gan ei gwneud yn ffordd ddiddorol o archwilio gwlyptiroedd a bywyd gwyllt.
Gall y rhai sy'n hoff o fwyd fynd i Farchnad Ffermwyr Gelli Aur ar 31 Mai i ddarganfod cynnyrch lleol a mwynhau diwrnod hamddenol mewn amgylchedd hanesyddol.
Bydd llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau i blant drwy gydol hanner tymor, gan gynnwys:
- Sesiynau amser stori
- Gweithdai gwneud gemwaith
- Sesiynau chwarae â Lego
- Paentio â dyfrlliwiau
- Gemau bwrdd
Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau'r llyfrgelloedd ar gael ar wefan Darganfod Sir Gâr:
https://www.darganfodsirgar.com/be-sy-mlaen/
Ar gyfer adloniant byw, mae Theatrau Sir Gâr yn cynnig digwyddiadau cyffrous dros y Sulgwyn:
- Welsh Wrestling – Theatr y Glowyr, Rhydaman (28 Mai)
- Annie Junior – Theatr y Lyric (28 Mai)
- The Cat in the Hat – Theatr y Ffwrnes (30 Mai)
Bydd Canolfannau Hamdden Actif Sir Gâr yn llawn hwyl yn ystod y Sulgwyn, gydag ystod eang o weithgareddau yn cael eu cynnal ledled y sir. O sesiynau offer gwynt yn y pwll a gwersi nofio dwys i frwydrau Nerf, gweithgareddau Lego a Byrddau Dŵr, bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau yn ystod yr hanner tymor hwn yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Pentre Awel, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Canolfan Hamdden Sanclêr a Chanolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Actif.
Ar 31 Mai, bydd Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli yn cynnal Ras am Oes, gan ddod â'r gymuned at ei gilydd ar gyfer digwyddiad cadarnhaol i godi arian i gefnogi Ymchwil Canser y DU.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn hanes a diwylliant, mae gan amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin ddigon i'w gynnig. Mae'r arddangosfa Romantic Wales: Turner and his Contemporaries yn agor ar 23 Mai ac yn para tan fis Hydref, gan arddangos Cymru trwy lygaid artistiaid dylanwadol. Gall ymwelwyr hefyd weld y car rasio eiconig Babs yn dychwelyd i'r Amgueddfa Cyflymder, gan barhau â'i apêl ar gyfer pob oedran.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae amrywiaeth mor eang o bethau i'w gwneud yn Sir Gâr yn ystod y Sulgwyn – o weithgareddau yn yr awyr agored a phrofiadau ym myd natur i amgueddfeydd, y theatr a sesiynau creadigol yn ein llyfrgelloedd. P'un a yw teuluoedd yn chwilio am ddiwrnodau mas egnïol neu weithgareddau mwy hamddenol, mae digon o gyfleoedd i fwynhau amser gwerthfawr gyda'i gilydd ledled y sir.”
