Dathlu'r gwirfoddolwyr yng nghalon Sir Gâr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr
1 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi Wythnos Gwirfoddolwyr drwy gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymunedau ledled y sir.
Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr trafnidiaeth gymunedol, gan gynnwys gyrwyr Ceir Cefn Gwlad a'r rhai sy'n cefnogi cynlluniau lleol eraill, sy'n chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi trigolion ledled Sir Gâr.
Maen nhw'n helpu i leihau unigrwydd, galluogi annibyniaeth a darparu mynediad at ofal iechyd trwy gludo pobl at apwyntiadau meddyg teulu, ffisiotherapi a llesiant.
I gael gwybod rhagor neu i wneud cais i ddod yn wirfoddolwr ar gyfer Ceir Cefn Gwlad, ewch i: Gwirfoddoli ar gyfer Ceir Cefn Gwlad – Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae Roy Davies, a gafodd ei enwi'n ddiweddar yn Wirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, yn un enghraifft o wirfoddolwr sy'n cefnogi'r rhwydwaith trafnidiaeth gymunedol ehangach hwn. Mae Roy yn helpu pobl i gael mynediad at drafnidiaeth a gwasanaethau hanfodol, gan gefnogi annibyniaeth a llesiant.
Mae gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i gynnal a gwella hawliau tramwy cyhoeddus Sir Gâr drwy'r prosiect Partneriaeth Llwybrau, sy'n cael ei ddarparu ar y cyd â Ramblers Cymru.
Mae'r cyfleoedd yn cynnwys 'Mabwysiadu Llwybr', lle mae gwirfoddolwyr yn helpu i fonitro llwybrau a gwneud gwaith cynnal a chadw ysgafn, yn ogystal â 'Diwrnodau Ceidwaid' sy'n cefnogi gwelliannau mwy ymarferol ochr yn ochr â Thîm Cynnal a Chadw'r Cyngor. Mae sesiynau Tocio a Cherdded (Snip and Stroll) hefyd yn cynnig ffordd gymdeithasol o gymryd rhan, gan gyfuno teithiau cerdded ar gyfer grwpiau â gweithgareddau fel clirio llystyfiant.
Mae'r ymdrechion hyn yn helpu i gadw llwybrau ar agor ac yn hygyrch, gan gefnogi ffyrdd o fyw egnïol a chysylltu cymunedau ag amgylchedd naturiol y sir.
I gymryd rhan yn y prosiect Partneriaeth Llwybrau, anfonwch neges e-bost at: amy.goodwin@ramblers.org.uk
Mae gwirfoddolwyr amgylcheddol yn parhau i gael effaith sylweddol trwy'r fenter Cymoni eich Cymuned. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys casglu sbwriel, gwaredu sbwriel sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon, a gwaith cynnal a chadw cyffredinol, yn ogystal â chreu mannau mwy cyfeillgar i fywyd gwyllt. Mae'r cynllun yn hyblyg, gan ganiatáu i unigolion roi o'u hamser fel y maen nhw'n ei ddymuno.
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, roedd 3.846 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan:
· 1,499 o ddigwyddiadau glanhau
· 1,393 o fagiau o sbwriel ailgylchadwy wedi'u casglu
· 4,433 o fagiau o wastraff gweddilliol wedi'u gwaredu
Mae'r ymdrechion hyn yn gwella'r amgylchedd lleol ac yn helpu i lywio ymgyrchoedd wedi'u targedu ledled y sir.
I ymuno â'r fenter Cymoni eich Cymuned neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk
Mae gwirfoddoli hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran cefnogi diwylliant a bywyd cymunedol ar draws Sir Gâr. Yn Theatrau Sir Gâr, mae tîm cynyddol o bron i 30 o wirfoddolwyr yn cefnogi gweithgareddau ar draws y tri lleoliad, gan chwarae rôl allweddol o ran helpu theatrau i barhau i fod yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb.
Mae eu hymroddiad a'u brwdfrydedd yn cyfrannu at ddatblygiad y theatrau ac yn helpu i sicrhau bod pob ymwelydd yn teimlo ei fod yn cael ei groesawu a'i werthfawrogi.
I wirfoddoli gyda Theatrau Sir Gâr, cysylltwch â Jo Shackley, Swyddog Datblygu Creadigol y Theatr, JShackley@sirgar.gov.uk.
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol trwy wasanaeth Actif y Cyngor.
Trwy Blatfform Gwirfoddoli Actif, mae cyfleoedd gwirfoddoli'n cael eu rhannu â phobl o bob oedran, gan helpu i gysylltu cymunedau â chyfleoedd i gymryd rhan, datblygu sgiliau a chefnogi gweithgareddau a digwyddiadau lleol.
Mae rhaglenni Arweinyddiaeth a Llysgenhadon Ifanc yn parhau i gael effaith gref, ac mae 85 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafodd 369 o ddisgyblion hyfforddiant o ran arweinyddiaeth ac roedd 292 wedi cymryd rhan mewn diwrnodau mentora, gan helpu i fagu hyder ac ysbrydoli gwirfoddolwyr y dyfodol.
I archwilio cyfleoedd gwirfoddoli Actif, ewch i: Chwilio am Gyfleoedd i Wirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr hefyd yn cefnogi llesiant cymunedol trwy sesiynau hel atgofion, sef Cofio.
Gan weithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau CofGâr a Llyfrgelloedd Sir Gâr, mae gwirfoddolwyr yn cefnogi sesiynau mewn cartrefi gofal ac ysgolion, gan helpu i ddod â phobl ynghyd drwy rannu atgofion a thrwy sgwrsio.
Gan ddefnyddio ffotograffau lleol a gwrthrychau bob dydd, mae'r sesiynau'n annog pobl i adrodd straeon, yn sbarduno trafodaeth ac yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i ailgysylltu ag eiliadau pwysig o'u gorffennol.
Mae'r sesiynau hyn yn darparu cyfleoedd i gymdeithasu a meithrin hyder ac yn helpu unigolion i deimlo eu bod yn cael eu clywed, gan greu cysylltiadau ystyrlon ar draws cenedlaethau.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Cofio neu i wirfoddoli, anfonwch neges e-bost i: gwybodaeth@cofgar.cymru
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae gwirfoddolwyr wrth galon ein cymunedau yma yn Sir Gâr.
P'un a ydyn nhw'n darparu trafnidiaeth, yn gwella amgylcheddau lleol, yn cefnogi profiadau diwylliannol neu'n annog gweithgareddau trwy raglenni Actif, mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy.
Hoffwn ddiolch i'r holl wirfoddolwyr am eu hymrwymiad ac annog unrhyw un sy'n ystyried gwirfoddoli i gymryd rhan."
