Y Cyngor yn cymeradwyo cau Ysgol Llansteffan
13 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cau Ysgol Llansteffan yn ei gyfarfod heddiw (Dydd Mercher 4 Mawrth 2026).
Bydd yr ysgol yn cau ar 31 Awst 2026, gyda disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Llangain o 1 Medi 2026. Bydd dalgylch presennol Ysgol Llansteffan hefyd yn dod yn rhan o ddalgylch Ysgol Llangain. Gall rhieni/gwarcheidwaid hefyd wneud cais i ysgolion eraill yn Sir Gaerfyrddin drwy'r broses arferol ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion.
Nodwyd Ysgol Llansteffan yn seiliedig ar feini prawf a bennwyd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024 er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r ysgol. Mae hyn yn cynnwys:
- Nifer y disgyblion yn eithriadol o isel
- Nifer uchel o leoedd gwag
- Nifer fawr o ddisgyblion sy'n byw o fewn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill
- Amcanestyniadau disgyblion yn awgrymu mai bach oedd y tebygolrwydd o nifer y disgyblion yn cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf
- Rhagwelir diffyg yn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:
"Mae'r penderfyniad i gau Ysgol Llansteffan yn anodd i bawb sy'n gysylltiedig â'r mater ac mae'n drist bod hyn wedi'i gytuno.
Yn dilyn proses gadarn, bydd cau Ysgol Llansteffan yn galluogi'r ysgol i gyfuno ag Ysgol Llangain i ddarparu staffio mwy diogel, rhannu'r Gymraeg yn ehangach ymhlith disgyblion a chreu cymuned wledig fwy cynaliadwy."
