Prosiect ysgolion yn mynd i'r afael a fepio ymhlith pobl ifanc drwy theatr ledled Sir Gaerfyrddin

7 awr yn ôl

Prosiect ysgolion yn mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc drwy theatr ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae menter ddiweddar ar y cyd rhwng ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r cwmni theatr Performance in Education (PIE) wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o fepio ymhlith pobl ifanc sy'n broblem gynyddol.

Cafodd y prosiect ei ddatblygu mewn ymateb i bryderon cynyddol gan ysgolion am y cynnydd mewn fepio, gan gynnwys ymhlith grwpiau blwyddyn iau. Mae hefyd yn ategu gwaith parhaus gyda manwerthwyr lleol ynghylch gwerthu i rai sydd o dan oed a masnachu cyfrifol.

Cafodd cyllid ar gyfer y fenter ei sicrhau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dilyn cytundeb drwy Grŵp Atal Sir Gaerfyrddin a chafodd y fenter ei chefnogi ar y cyd gan y Tîm lleol Iechyd y Cyhoedd a thri chlwstwr Sir Gaerfyrddin. Drwy'r cyllid hwn cafodd PIE ei gomisiynu i gyflwyno cyfres o berfformiadau ledled y sir ddiwedd mis Tachwedd 2025. Cafodd pob un o’r 12 ysgol uwchradd eu gwahodd, a chymerodd 11 ran yn y rhaglen.

Cyflwynodd PIE berfformiad pwrpasol, rhyngweithiol wedi'i gynllunio'n benodol i fynd i'r afael â'r risgiau sy'n gysylltiedig â fepio a defnyddio nicotin. Edrychodd y cynhyrchiad ar yr effeithiau iechyd, y pwysau cymdeithasol a'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig â fepio, a hynny mewn modd cyfoes, diddorol a pherthnasol i gynulleidfaoedd ifanc.

Hefyd cafodd actorion Cymraeg eu darparu i sicrhau bod perfformiadau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyflwyno yn yr iaith Gymraeg, gan wneud y sesiynau'n gwbl hygyrch i bob disgybl.

Mae'r adroddiad gwerthuso yn tynnu sylw at lefelau ymgysylltu cryf yn ystod y perfformiadau, gan nodi bod disgyblion wedi ymateb yn arbennig o dda i'r elfennau rhyngweithiol a thrafodaethau agored. Nododd ysgolion fod y sesiynau yn cefnogi eu cwricwlwm iechyd a llesiant ehangach ac wedi helpu i ysgogi sgyrsiau ystyrlon am fepio.

Dywedodd Dr Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Mae fepio ymhlith pobl ifanc yn bryder cynyddol o ran iechyd y cyhoedd, ac mae ysgolion wedi nodi'n glir bod angen cymorth arnyn nhw i fynd i'r afael ag ef. Mae'r prosiect hwn wedi ein galluogi i ymgysylltu'n uniongyrchol â disgyblion mewn ffordd sy'n onest ac yn effeithiol, gan eu helpu i ddeall y risgiau gwirioneddol sy'n gysylltiedig â defnyddio nicotin. Drwy weithio ar y cyd â'n hysgolion a'n partneriaid, rydyn ni'n cymryd camau pwysig i ddiogelu iechyd a llesiant pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin.”

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am faterion defnyddwyr a busnes:

Mae'r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys disgyblion mewn grwpiau blwyddyn is, yn destun pryder i ni. Nod y prosiect hwn oedd bod yn rhagweithiol drwy ddarparu gwybodaeth glir, sy'n briodol i'w hoedran, mewn ffordd sy'n wirioneddol berthnasol i bobl ifanc.
Drwy weithio mewn partneriaeth â'n hysgolion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Performance in Education, rydyn ni wedi gallu cyflwyno neges bwerus am y risgiau sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar nicotin ac effeithiau ehangach fepio.”