Newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gâr dros gyfnod y Pasg
1 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Gâr yn atgoffa trigolion i wirio eu dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y Pasg. Mae newidiadau wedi'u gwneud i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg yn hwylus.
Dyma pryd y bydd eich biniau yn cael eu casglu dros y Pasg:
|
Diwrnod casglu arferol |
Newid diwrnod |
|
Dydd Llun 30 Mawrth |
Dydd Sul 29 Mawrth |
|
Dydd Mawrth 31 Mawrth |
Dydd Llun 30 Mawrth |
|
Dydd Mercher 1 Ebrill |
Dydd Mawrth 31 Mawrth |
|
Dydd Iau 2 Ebrill |
Dydd Mercher 1 Ebrill |
|
Dydd Gwener 3 Ebrill |
Dydd Iau 2 Ebrill |
|
Dydd Llun 6 Ebrill |
Dydd Mawrth 7 Ebrill |
|
Dydd Mawrth 7 Ebrill |
Dydd Mercher 8 Ebrill |
|
Dydd Mercher 8 Ebrill |
Dydd Iau 9 Ebrill |
|
Dydd Iau 9 Ebrill |
Dydd Gwener 10 Ebrill |
|
Dydd Gwener 10 Ebrill |
Dydd Sadwrn 11 Ebrill |
Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff hylendid a chewynnau a gwastraff gardd hefyd yn dilyn amserlen ddiwygiedig y Pasg. Gwiriwch eich diwrnod casglu.
Rhowch eich biniau mas erbyn 6am ar eich diwrnod casglu. Cofiwch yr uchafswm o dri bag du a golchwch a gwasgwch eich deunydd ailgylchu.
Os bydd unrhyw darfu ar eich casgliadau gwastraff, bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar y wefan ar ôl 2pm ar ddiwrnod eich casgliad. Gwiriwch y wybodaeth ddiweddaraf yma.
Bydd holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor fel arfer dros benwythnos y Pasg. Gwiriwch eu oriau agor yma.
Dywedodd Cyfarwyddwr Lle, Seilwaith a Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Gâr, Ainsley Williams:
Rydyn ni am sicrhau bod trigolion yn cael gwybodaeth lawn am y newidiadau dros dro i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y Pasg. Trwy wirio eich diwrnodau casglu diwygiedig a chyflwyno'ch biniau erbyn 6am, byddwch yn helpu ein criwiau i gadw gwasanaethau i redeg yn esmwyth yn ystod y cyfnod prysur hwn. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cydweithrediad ac am barhau i ailgylchu'n gyfrifol."
