Mae nifer cynyddol o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

3 diwrnod yn ôl

Yn ôl ffigurau newydd mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn ffurfio cyfran gynyddol o gyfanswm nifer y gofalwyr maeth yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae 56 o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru, sy'n gynnydd o 30% o gymharu â 2024. O'r aelwydydd hynny, mae 12.5% yn maethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr. Yn Sir Gaerfyrddin yn unig bu gofalwyr maeth LHDTC+ yn cefnogi 17 o blant yn 2025, sy'n adlewyrchu'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.

Yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ hon (2-9 Mawrth), mae Maethu Cymru Sir Gâr yn annog pobl LHDTC+ i ystyried ymholi ynglŷn â dod yn ofalwyr maeth.

Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan lawer o bobl LHDTC+ brofiad bywyd personol unigryw i'w gynnig wrth ofalu am blant a phobl ifanc.

Mae Dee a Kaz Hamilton yn ofalwyr maeth sydd newydd eu cymeradwyo yn Sir Gaerfyrddin. Dywedon nhw:

Doedd gyda ni ddim syniad bod angen maethu arnon ni yn ein bywydau.
Dechreuodd gyda ffrindiau yn gofyn i ni fod yn gymorth maeth iddyn nhw. Ar y pryd, doedd gyda ni ddim unrhyw fwriad i fod yn fwy na phâr arall o ddwylo. Yna dechreuon ni dreulio mwy o amser gyda phlant a phobl ifanc, clywed eu straeon, a chael ein hannog i ystyried maethu hefyd.
Dydyn ni ddim yn tybio bod popeth yn fêl i gyd. Rydyn ni'n gwybod nad yw bob amser yn hawdd, ond er hynny mae cael plant a phobl ifanc ychwanegol yn ein bywydau wedi rhoi boddhad mawr i ni.
Fel dwy wraig hŷn, rydyn ni'n teimlo mai gofal seibiant sy'n addas i ni ar hyn o bryd, a phwy a ŵyr ble gallai hynny arwain. Am y tro, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ffrindiau ifanc i'n byd, p'un a ydyn nhw eisoes yn rhan o'n bywydau neu'n dechrau dod atom ni.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd:

Mae angen dybryd am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ac nid oes digon o geisiadau mabwysiadu. Rydym am annog pobl i ystyried mabwysiadu neu faethu fel llwybrau i adeiladu eu teulu. Mae pobl LHDTC+ yn dod â rhinweddau unigryw a all fod yn hynod bwerus wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu gweld.”

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru:

Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maen nhw'n defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a'u gwytnwch i gwrdd ag anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud ymlaen i gael eu mabwysiadu, a fydd yn rhoi'r diogelwch gydol oes sydd ei angen arnyn nhw pan nad yw dychwelyd at eu teulu geni yn bosibl. 
Gyda chymaint o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy'n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddod ymlaen a dechrau sgwrs gyda'u tîm lleol heddiw.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.

I wybod mwy am fabwysiadu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.