Gwelliannau trafnidiaeth sylweddol ar y ffordd i Sir Gaerfyrddin
1 diwrnod yn ôl
Mae disgwyl gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, i lwybrau cerdded a beicio, ac i gysylltiadau rhwng cymunedau yn dilyn cyllid sylweddol i Sir Gaerfyrddin drwy Raglen Grant Trafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu'r prosiectau a'r blaenoriaethau sydd yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, gan fod swm o bron i £25m wedi'i roi ar draws Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Yn Sir Gaerfyrddin, bydd y cyllid yn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i gyflawni amryw brosiectau. Maent yn cynnwys:
- £750,000 ar gyfer gwneud gwelliannau diogelwch ffyrdd ar y B4304 Heol yr Orsaf/Heol y Doc Newydd, Llanelli i ddarparu llwybr cyd-ddefnyddio a mesurau arafu traffig
- £2.69m ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, gan gynnwys:
- £500,000 ar gyfer cyflawni'r cynllun a datblygu gwaith parhaus yn Llanymddyfri
- £600,000 ar gyfer parhau i ddatblygu/cyflawni Prif Gynllun Llanelli
- £1.25m ar gyfer datblygiad parhaus Prif Gynllun Caerfyrddin ac elfennau yn cynnwys cysylltiadau rhwng Abergwili a Chaerfyrddin
- £240,000 o fân waith a phecynnau dichonoldeb
- £100,000 i ddatblygu cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer gwaith adeiladu yn Cross Hands yn y dyfodol
- £330,000 ar gyfer gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus:
- £250,000 i gwblhau'r gwaith o adeiladu Cyfnewidfa Deithio Llanelli
- £80,000 i helpu i ddatblygu menter Cludiant Ysgol Rhanbarthol
- £500,000 o gyllid ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn:
- £490,000 i ddarparu hwb gwefru chwim ar gyfer cerbydau trydan yn Nantgaredig
- £10,000 i barhau i gyflwyno treialon gwefru gyli ar gyfer perchnogion cerbydau trydan sydd heb fan parcio oddi ar y stryd
- £2.05m o gyllid priffyrdd (aml-ddull):
- £250,000 ar gyfer Gwelliannau Mynediad i Dref Caerfyrddin – gwelliannau aml-ddull ar draws tref Caerfyrddin
- £650,000 ar gyfer Gwelliannau Mynediad i Dref Llanelli - gwelliannau aml-ddull ar draws canol tref Llanelli
- £400,000 i gyflawni cynlluniau uwchraddio yn y Rhaglen Pontydd Is-safonol i gefnogi'r priffyrdd
- £750,000 i ddatblygu cynigion ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy ac agweddau mynediad ar ddatblygiad Cwm Gwyrdd yn Nant-y-caws
· £116,400 o gyllid diogelwch ffyrdd ar gyfer mentrau parhaus i addysgu grwpiau defnyddwyr ffyrdd agored i niwed, megis Biker Down Cymru, Dragon Rider Cymru, Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol, Kerbcraft a hyfforddiant diogelwch ffyrdd a theithio llesol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:
Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu y gall Cyngor Sir Caerfyrddin fwrw ymlaen â'r gwelliannau sylweddol i gysylltiadau trafnidiaeth ar draws Sir Gâr, er mwyn darparu gwell cysylltiadau rhwng cymunedau, yn ogystal â rhagor o gyfleoedd teithio llesol i alluogi cerdded ac olwyno mwy diogel ledled y sir.
Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad cyffrous yr wythnos hon y bydd Llwybr Dyffryn Tywi, sy'n mynd o Abergwili i Ffairfach, ar agor yn llawn erbyn gwyliau'r Pasg."
Mae Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi'i ddatblygu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer de-orllewin Cymru, sy'n llunio gweledigaeth hirdymor er mwyn i bobl allu teithio ar draws y rhanbarth yn haws ac mewn modd sy'n fwy gwyrdd a fforddiadwy.
