Gweithgareddau Pasg cyffrous ac am ddim yn Sir Gâr i deuluoedd

6 diwrnod yn ôl

Gall teuluoedd ledled Sir Gâr edrych ymlaen at Basg gwych, yn llawn digwyddiadau am ddim a fforddiadwy, marchnadoedd a gweithgareddau addas i deuluoedd. Mae helfa wyau Pasg, llwybr Pasg hudolus, a marchnad ffermwyr fywiog ar gael ledled Sir Gâr gan gynnig rhywbeth ar gyfer pob oedran a diddordeb y Pasg hwn.

Darganfod Sir Gâr yw'r canllaw delfrydol ar gyfer popeth y gallwch ei wneud dros y Pasg, o ddiwylliant a chreadigrwydd i chwaraeon ac antur awyr agored. 

Mae sîn celfyddydau perfformio bywiog y sir yn serennu gyda rhestr gyffrous o sioeau sy'n sicr o ddiddanu cynulleidfaoedd o bob oed. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae The Utterly Revolting Science Show, Chitty Chitty Bang Bang, Rapunzel a K-Pop Party.

Mae Amgueddfeydd Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth o brofiadau sy'n addas i deuluoedd yr hanner tymor hwn. Ewch ar antur i'r Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn, lle mae hanes moduro byd-enwog y sir yn dod yn fyw. Gall ymwelwyr gyfuno rhywfaint o hwyl awyr agored hefyd gyda rownd ar y cae Gwallgolff.  Ar 27 Ebrill mae Babs yn dychwelyd i nodi canmlwyddiant record cyflymder tir y byd J.G. Parry-Thomas. Bydd y digwyddiad pen-blwydd am ddim yn dechrau am 12pm (hanner dydd) ac mae disgwyl i Babs gwblhau dau rediad arddangos ar hyd rhan gymunedol o draeth Pentywyn.

Ymunwch â'r Llwybr Wyau Pasg cyffrous yn Amgueddfa Parc Howard ar 5 Ebrill, lle gall teuluoedd archwilio, datrys cliwiau, a dod o hyd i syrpreisys blasus y Pasg.

I'r rhai sy'n awyddus i gadw'n egnïol, mae canolfannau hamdden Sir Gâr yn cynnal sesiynau nofio'r Pasg, gweithgareddau chwaraeon a chyfleoedd ffitrwydd i'r teulu.

Ar 4 Ebrill bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnal ei ffair Pasg gyntaf. Dewch i gael blas ar grefftau a chynnyrch o bob rhan o Sir Gâr, Helfa Sborion y Pasg i blant, Sesiwn Chwarae i'r Teulu gyda Chwaraeon a Hamdden Actif, gemau bwrdd enfawr a mwy!
Bydd Llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal sesiynau crefftau, amser stori a sesiynau creadigol i bobl ifanc. Ymunwch â'r helfa wyau Pasg i blant yn Llyfrgell Porth Tywyn, neu dewch â'r plant draw i lyfrgell Llanelli rhwng 9am a 4pm ar gyfer Diwrnod Lliwio'r Pasg a fydd yn llawn lliwiau llachar, wynebau cyfeillgar a digon o hwyl greadigol.

Cofiwch siopa'n lleol y Pasg hwn a dewis cynnyrch ffres, nwyddau wedi'u gwneud â llaw, a danteithion tymhorol ym marchnadoedd ffermwyr bywiog Sir Gâr yng Nghydweli a Llanymddyfri ar 4 Ebrill. 

Pennaeth Cymunedau Iach a Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin, Ian Jones:

“Sir Gâr yw'r lle i fod dros y Pasg, gyda chymysgedd gwych o weithgareddau fforddiadwy ac am ddim ar gyfer teuluoedd o bob oedran. P'un a ydych chi'n chwilio am wyau Pasg, yn crwydro ein tirweddau hardd, neu'n mwynhau un o'n digwyddiadau lleol cyffrous, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Rydyn ni'n gwahodd trigolion ac ymwelwyr i fwynhau'r tymor, i gymryd rhan, a chreu atgofion bythgofiadwy yma yn Sir Gâr.”


I'r rhai sy'n chwilio am hyd yn oed mwy o ffyrdd i ddathlu, mae Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth o brofiadau am ddim a fforddiadwy:

Gall selogion awyr agored fwynhau tirweddau hardd Sir Gâr, gan gynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Llyn Llech Owain, a Pharc Arfordirol y Mileniwm, yn ogystal â Llwybr newydd Dyffryn Tywi. O lwybrau coetir a llwybrau beicio i draethau ac ardaloedd chwarae, mae'r sir yn cynnig cyfleoedd diddiwedd am awyr iach ac antur. Gall ymwelwyr hefyd grwydro traethau hardd Cefn Sidan, Pentywyn, a Llansteffan, neu gamu'n ôl i'r gorffennol ac ymweld â chestyll hanesyddol gan gynnwys Castellnewydd Emlyn a Dinefwr.

Anogir trigolion ac ymwelwyr i rannu eu profiadau Pasg ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DymaSirGâr a #PasgYnSirGâr ac i ddilyn Darganfod Sir Gâr ar Facebook ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gall trefnwyr digwyddiadau Pasg yn Sir Gâr hyrwyddo eu gweithgareddau am ddim ar DarganfodSirGar.com, gan helpu mwy o bobl i ddod o hyd i ddigwyddiadau a'u mwynhau y tymor hwn.