Gorchymyn i fridwyr cŵn anghyfreithlon dalu dros £129,000 yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin
1 diwrnod yn ôl
Mae pedwar person o Fynyddygarreg, Cydweli, wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £129,873.41 yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir Caerfyrddin am fridio cŵn anghyfreithlon.
Yn Llys y Goron Abertawe ar 10 Mawrth 2026, gerbron Ei Anrhydedd y Barnwr Thomas KC, plediodd y diffynyddion Stacey May June Edwards, Peter John Edwards, Sian Eleri Thomas, a David Malcolm James Thomas, i gyd o Sea Breeze, Mynyddygarreg, Cydweli, yn euog i droseddau o dan Reoliadau Bridio Cŵn (Cymru) 2014.
Rhoddodd y Llys:
· Gorchmynion Atafaelu gwerth cyfanswm o £129,873.41 o dan y Ddeddf Enillion Troseddu (POCA) rhwng y pedwar diffynnydd
· £8,000 mewn costau
· Dirwy o £2,000 i bob diffynnydd
Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Ebrill 2021 pan dderbyniodd tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin e-bost gan Peter Edwards yn gofyn am wybodaeth am wneud cais am drwydded bridio cŵn. Er gwaethaf cael y pecyn gwybodaeth trwyddedu llawn, a chyflwyno cais rhannol ym mis Chwefror 2022, tynnodd yr ymgeiswyr eu cais yn ôl yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd y Cyngor gŵyn bod cŵn bach yn cael eu hysbysebu i'w gwerthu heb y drwydded angenrheidiol. Yn dilyn hyn, cysylltodd swyddogion â llwyfannau hysbysebu a chyhoeddi ceisiadau data i gadarnhau graddfa'r gweithgaredd.
Datgelodd dadansoddiad o'r cofnodion hysbysebu gan Pets4Homes, Freeads, a Gumtree fod sawl torraid o gŵn bach yn cael eu hysbysebu gan aelodau o'r aelwyd.
Cadarnhaodd gohebiaeth PACE (Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol) gan y diffynyddion fod hyd at 25 o gŵn yn cael eu cadw yn yr eiddo, ac roedd rhwng 16 a 19 ohonyn nhw yn geist.
Hawliodd rhai diffynyddion gyd-berchnogaeth o'r cŵn, a gwadodd eraill eu rhan i raddau.
Daeth swyddogion y Cyngor o hyd i nifer o hysbysebion cŵn bach wedi'u postio rhwng Gorffennaf 2020 ac Ebrill 2025, sy'n dangos patrwm helaeth o weithgarwch bridio heb drwydded.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r achos hwn yn dangos safiad cadarn y Cyngor yn erbyn bridio cŵn yn anghyfreithlon a heb drwydded. Mae'r rheoliadau hyn ar waith i amddiffyn lles anifeiliaid a sicrhau bod gweithgareddau bridio yn destun goruchwyliaeth briodol. Roedd graddfa'r gweithgaredd a ddatgelwyd yn yr eiddo hwn yn gwbl annerbyniol, ac rydyn ni'n croesawu penderfyniad y Llys i gyhoeddi gorchmynion atafaelu sylweddol o dan POCA."
Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â phryderon am fridio cŵn anghyfreithlon i roi gwybod i ni. Bydd ein swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn parhau i ymchwilio'n drylwyr ac yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith."
Atgoffir preswylwyr bod rhaid i unrhyw un sy'n ymwneud â bridio a gwerthu cŵn gydymffurfio â rheoliadau trwyddedu sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn lles anifeiliaid a phrynwyr fel ei gilydd.
