Dros £12m mewn taliadau cymorth wedi’i hawlio gan drigolion Sir Gaerfyrddin drwy Ganolfannau Hwb y Cyngor
1 diwrnod yn ôl
Fel rhan o agenda trechu tlodi Cyngor Sir Caerfyrddin, amcangyfrifir bod trigolion Sir Gaerfyrddin wedi hawlio tua £12m mewn taliadau cymorth, ers sefydlu’r gwasanaeth Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi yn 2022.
Yn 2025 yn unig, cynorthwyodd Canolfannau Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin dros 2,596 o drigolion a gyfeiriwyd at ei wasanaeth ‘Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi’ i hawlio amcangyfrif o tua £4.5m mewn taliadau cymorth a budd-daliadau.
Mae’r Ymgynghorwyr Hwb wedi cefnogi ceisiadau am nifer o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae bathodynnau glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y dreth gyngor, grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol, ac atgyfeiriadau at Gyngor ar Bopeth i gynorthwyo gyda thaliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae pedair ffordd o gael y cymorth hwn:
- Ar-lein - drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y cyngor, sy'n cynnwys gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu i siarad ag ymgynghorydd
- Ymweld â Hwb - yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siarad ag un o'r ymgynghorwyr Hwb cyfeillgar.
- Hwb Bach y Wlad - Fel estyniad o'r tair prif ganolfan Hwb, mae Hwb Bach y Wlad yn dod â gwasanaethau cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol i ardaloedd gwledig.
- Ffonio’r Ganolfan Gyswllt – Gall cwsmeriaid sydd am atgyfeiriad 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' ffonio 01267 234567, ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am - 6:00pm.
Yn ogystal â chefnogi'r trigolion sy'n cael eu hatgyfeirio at yr Ymgynghorwyr Hwb, mae'r canolfannau Hwb wedi cael bron i 56,000 o ymweliadau gan bobl sydd am gyngor, yn y tair prif ganolfan Hwb a thrwy gymorthfeydd a digwyddiadau Hwb Bach y Wlad.
Ymhlith y trigolion sydd wedi cael cymorth gan yr ymgynghorwyr Hwb mae Mr S a Mrs B (nid eu henwau go iawn).
Mae Mr S a'i bartner bellach £24,626.94 y flwyddyn ar eu hennill ar ôl ymweld â'r Hwb i wneud cais am fathodyn glas oherwydd problemau symudedd. Yn ystod llenwi’r cais, soniodd Mr S mai dim ond o drwch blewyn yr oedd yn llwyddo i dalu ei rent a'i dreth gyngor.
Gwnaed atgyfeiriad at y gwasanaeth ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ a chynhaliwyd asesiad gyda Mr S a'i bartner, lle gwnaed cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Cawsant eu cyfeirio hefyd at Gyngor ar Bopeth ar gyfer ceisiadau Credyd Pensiwn a Lwfans Gweini. Bu bob un o’r ceisiadau hyn yn llwyddiannus.
Mae Mrs B a'i phartner ar eu hennill o £19,181.00 ar ôl atgyfeiriad ‘Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi’. Roedd Mrs B mewn iechyd gwael ac ymwelodd â'i Hwb lleol i ofyn am gymorth gan fod angen i'w phartner roi'r gorau i'r gwaith i ofalu amdani. Roedd eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol a chynhaliwyd asesiad. Yn dilyn hyn, gwnaed cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor a chyfeiriwyd y cwpl at Gyngor ar Bopeth ynghylch Taliadau Annibyniaeth Personol a Lwfans Gofalwyr.
Arweiniodd hyn at Daliadau Annibyniaeth Personol, Lwfans Gofalwyr a gostyngiad yn y Dreth Gyngor yn cael eu dyfarnu, yn ogystal â chynnydd mewn Credyd Cynhwysol ar gyfer costau tai. Dyfarnwyd bathodyn glas hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi ac Arweinydd Trechu Tlodi Cyngor Sir Caerfyrddin:
"Mae costau byw yn parhau i fod yn bwysau sylweddol ar gymdeithas gyda mwy o deuluoedd ac aelwydydd yn profi tlodi.
Mae ein Hymgynghorwyr Hwb ar gael i ddarparu cymorth a chyngor yn ogystal â chynnal asesiadau i helpu trigolion o amrywiaeth o amgylchiadau i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd ag amcan llesiant y Cyngor Sir i alluogi ein trigolion i fyw a heneiddio'n dda.
Mae help ar gael gan ein tri phrif Hwb yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman yn ogystal â'n gwasanaeth Hwb Bach y Wlad. Gall trigolion hefyd gyflwyno atgyfeiriad i'r gwasanaeth ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ ar-lein, trwy wefan y Cyngor.”
I gael help gan ymgynghorydd Hwb neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i'r dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
