Datganiad ar Westy Parc y Strade – 4 Mawrth 2026
11 awr yn ôl
Yn dilyn penderfyniad perchnogion Gwesty Parc y Strade i gau'r gwesty ar unwaith, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael sicrwydd gan y Fonesig Nia Griffith AS, yn dilyn ei thrafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref, nad yw'r adeilad yn cael ei ystyried ar gyfer unrhyw gynlluniau lletya dros dro.
Gall y Cyngor Sir hefyd gadarnhau nad oes bwriad ganddo i brynu'r adeilad, ac nad yw'r Swyddfa Gartref, nac unrhyw sefydliad arall, wedi bod mewn cysylltiad ynghylch unrhyw gynlluniau ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol.
Mae'r Awdurdod Lleol wedi cysylltu â staff y gwesty i ddarparu cymorth cyflogadwyedd, a bydd yn cadw mewn cysylltiad â'r staff trwy gydol y cyfnod ansicr hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
"Mae'n hynod siomedig clywed bod perchnogion Gwesty Parc y Strade wedi penderfynu cau'r gwesty, a hynny mor ddisymwth. Ein blaenoriaeth fel Cyngor Sir yw staff y gwesty, y mae'r datblygiad hwn yn effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw, ac mae ein swyddogion mewn cysylltiad uniongyrchol â'r staff i'w cefnogi yn ystod cyfnod y mae'n rhaid ei fod yn un anodd a phryderus iawn iddyn nhw."
Ychwanegodd y Cynghorwyr Martyn Palfreman ac Edward Skinner, sy'n cynrychioli Ward Hengoed,
"Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i'r Cyngor Sir am roi mesurau ar waith i helpu'r staff y mae'r cyhoeddiad sydyn hwn yn effeithio arnyn nhw, a byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r ymdrechion hyn dros yr wythnosau nesaf. Calonogol hefyd yw'r sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd yn defnyddio Gwesty Parc y Strade i letya ceiswyr lloches. Dylai hyn roi tawelwch meddwl i'r gymuned gyfan, ond rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â phryderon parhaus i gysylltu â ni'n uniongyrchol".
