Darn olaf Llwybr Dyffryn Tywi Sir Gâr i agor mewn pryd ar gyfer y Pasg
2 diwrnod yn ôl
Bydd Llwybr Dyffryn Tywi, sef prosiect blaenllaw Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n cysylltu Caerfyrddin â Llandeilo, yn agor yn llawn mewn pryd ar gyfer y Pasg, gan ddarparu cyfleoedd cerdded a beicio i drigolion ac ymwelwyr â'r sir.
Bydd y llwybr 13 milltir o hyd rhwng Abergwili a Ffair-fach, sef y darn olaf i'w gwblhau yn y prosiect, yn agor yn llawn i'r cyhoedd y Pasg hwn. Mae'r cam olaf hwn yn cynnwys gosod dwy bont nodedig sy'n croesi afon Tywi ac afon Cothi.
Mae'r llwybr yn cynnig lle diogel, hygyrch a hardd i feicwyr, cerddwyr, teuluoedd ac ymwelwyr, gan eu tywys trwy rai o dirweddau mwyaf ysblennydd Sir Gâr. Ar hyd y ffordd, gall defnyddwyr fwynhau golygfeydd eang ar draws Dyffryn Tywi, gan gynnwys Tŵr Paxton, Castell Dryslwyn a Chastell Dinefwr, sydd wedi'u lleoli yng nghanol cefn gwlad dramatig sy'n llawn bryniau a phantiau. Mae harddwch i'w weld ar y llwybr trwy gydol y flwyddyn wrth i'r dirwedd newid yn gyson trwy gydol y tymhorau.
Mae'r ardal gyfagos yn cynnig cyfoeth o atyniadau i ymwelwyr, gydag Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili a Pharc yr Esgob yn lle heddychlon sy'n agos at y llwybr, yn ogystal â rhai o erddi enwocaf Cymru, gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasne a Gelli Aur.
Gall y rhai sy'n hoff o fwyd fwynhau mannau lleol ardderchog i gael bwyd, gan gynnwys Wrights Food Emporium, Stacey's Kitchen ac amrywiaeth o gaffis annibynnol a lleoedd i fwyta. Â threfi marchnad bywiog Caerfyrddin a Llandeilo ar bob pen o'r llwybr, mae gan ymwelwyr gyfleoedd gwych i gychwyn neu orffen eu taith drwy siopa a chael ychydig o ddiwylliant a lletygarwch lleol.
Mae'r llwybr yn gweithredu fel coridor diwylliannol a hamdden allweddol. Mae'n annog pobl i aros yn hirach ac i ymweld yn fynych, gan gefnogi'r economi ymwelwyr leol yn uniongyrchol, a sicrhau bod canol trefi, busnesau gwledig a mentrau cymunedol fel ei gilydd yn profi'r buddion economaidd.
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn darparu llwybr teithio llesol di-draffig o ansawdd uchel, gan annog pobl i gerdded a beicio a hyrwyddo mynediad at natur, bioamrywiaeth a mannau gwyrdd. Mae'r llwybr hefyd yn cyfrannu'n gadarnhaol at lesiant meddwl, iechyd corfforol a chreu cymunedau iachach, mwy cysylltiedig ar draws y dyffryn.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn brosiect unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer Sir Gâr. Mae'r prosiect hwn nid yn unig yn cysylltu cymunedau ond hefyd yn arddangos harddwch, hanes a diwylliant Dyffryn Tywi, gan greu llwybr cerdded, beicio ac olwyno o'r radd flaenaf ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd."
Ychwanegodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae cwblhau'r pontydd dros afon Tywi ac afon Cothi yn garreg filltir bwysig o ran peirianneg ac yn rhoi ffordd newydd anhygoel i drigolion ac ymwelwyr weld ein sir. Bydd y llwybr hwn yn cefnogi teithio llesol ac yn rhoi hwb i dwristiaeth leol, ynghyd â bod o fudd i gymunedau o Gaerfyrddin i Landeilo.”
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio'n agos gyda busnesau lleol, partneriaid twristiaeth a sefydliadau cymunedol i wneud y mwyaf o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y llwybr.
