Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio prosiect ymchwil Sero Net gwledig ym Mremenda Isaf

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio prosiect mawr newydd o ran ymchwil ac arddangos i ddatblygu atebion carbon isel ymarferol wedi'u hôl-osod ar gyfer cartrefi gwledig traddodiadol ledled Cymru.

Mae'r prosiect -O Laith i Gynnes: Atebion Carbon Isel ar gyfer Cartrefi Gwledig Cymru - yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd a'i ariannu drwy raglen Switch Cymru Sero Net Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Mae'n cael ei ddarparu ar fferm y Cyngor, Bremenda Isaf, mewn partneriaeth â Chanolfan Tywi a Thîm Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru.

Mae'r ffocws ar ffermdy traddodiadol â waliau soled o gyfnod cyn 1919 - sef math o adeilad sy'n cynrychioli mwy na thraean o gartrefi yn Sir Gâr. Os yw targedau Sero Net yn cael eu cyflawni, mae'n rhaid i bob eiddo gael ei ôl-osod mewn ffyrdd sy'n effeithiol, fforddiadwy ac yn briodol ar gyfer hinsawdd wlyb a gwyntog Cymru.

Dros y 12 mis nesaf, bydd y tîm ymchwil yn gwneud gwaith monitro manwl ynghylch tymheredd, lleithder, defnydd ynni a'r modd y mae lleithder yn symud, ochr yn ochr â dadansoddi deunyddiau'r adeilad. Yn hytrach na dechrau gyda gwaith ôl-osod mawr, bydd y prosiect yn sefydlu sut mae'r adeilad yn perfformio ar hyn o bryd ac yn archwilio sut y mae modd cefnogi strwythurau traddodiadol er mwyn eu bod yn gweithio fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

Bydd y canfyddiadau'n llywio llwybrau ôl-osod carbon isel, risg isel gydag ychydig iawn o ymyrraeth, gan helpu i wella perfformiad ynni, lleihau allyriadau carbon a'i wneud yn fwy cyfforddus. Yn hollbwysig, bydd y canlyniadau'n bwydo'n uniongyrchol i hyfforddiant achrededig drwy Ganolfan Tywi ynghyd â datblygu sgiliau proffesiynol, ceisiadau am gyllid yn y dyfodol a pholisi a chanllawiau awdurdodau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae adeiladau traddodiadol yn ffurfio cyfran sylweddol o gartrefi yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws cefn gwlad Cymru. Mae gwneud y gwaith ôl-osod yn iawn yn hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau Sero Net.
Bydd y prosiect hwn yn rhoi'r dystiolaeth gadarn sydd ei hangen arnom i roi arweiniad i berchnogion tai, crefftwyr a llunwyr polisi – gan sicrhau ein bod yn ehangu atebion sy'n gweithio ar gyfer ein cymunedau a'n hinsawdd."

Mae'r Cyngor yn diolch i dîm ymchwil Prifysgol Caerdydd ac i'r partneriaid sy'n rhan o'r gwaith o lansio'r fenter bwysig hon. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu wrth i'r gwaith monitro fynd rhagddo.