Cyngor Sir Caerfyrddin i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gydag wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu menywod a merched

17 awr yn ôl

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) gyda rhaglen wythnos o hyd o sesiynau ar-lein a gweithgareddau cymunedol sy'n dathlu, yn cefnogi ac yn grymuso menywod a merched ledled y sir.

Fel rhan o'r dathliadau, bydd y Cyngor yn cyflwyno cyfres o sesiynau ar-lein sy'n ymdrin ag ystod o bynciau ac sydd wedi'u cynllunio i lywio, i ysbrydoli ac i hyrwyddo llesiant. Bydd y sesiynau'n canolbwyntio ar themâu allweddol sy'n effeithio ar fenywod a merched, gan gynnwys iechyd a llesiant, meithrin hyder, a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae'r fformat rhithwir yn sicrhau hygyrchedd ac yn annog cyfranogiad o bob rhan o Sir Gâr.

Bydd canolfannau hamdden yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli hefyd yn cynnal gweithgareddau ychwanegol, gan ddangos cefnogaeth leol gref i fenywod a merched mewn cymunedau ledled y sir.

Ddydd Gwener, 6 Mawrth, bydd y dathliadau'n parhau drwy lansio fideo newydd a gafodd ei greu mewn partneriaeth ag Urddas Mislif Sir Gâr. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Canolfan Pentre Awel rhwng 5:30pm a 7:30pm, lle bydd stondinwyr a gweithgareddau rhyngweithiol ar gael yn y neuadd chwaraeon. Bydd y noson yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael gwared â rhwystrau o ran cyfranogiad a hyrwyddo urddas, cydraddoldeb a chyfle i bawb.

Bydd y rhaglen yn dod i ben gyda digwyddiad chwaraeon mawr wrth i fenywod Cymru chwarae ar gae Parc y Scarlets.

Ddydd Sadwrn, 7 Mawrth (cic gyntaf am 16:30), bydd tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn wynebu Montenegro wrth iddynt ddechrau ar eu taith i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027. Bydd y gêm yn rhoi cyfle i gefnogwyr wylio Cymru'n chwarae yn Sir Gâr, a hynny mewn achlysur sy'n argoeli i fod yn gyffrous ac ysbrydoledig.

Gydag adloniant cyn y gêm wedi'i gynllunio, mae'r gêm Cymru v Montenegro yn cynnig diwrnod mas gwych i deulu a ffrindiau. £3 yn unig yw'r tocynnau rhataf i blant iau ac £8 i oedolion, gan wneud y digwyddiad yn hygyrch i bawb. Mae cefnogwyr yn cael eu hannog i brynu tocynnau'n gynnar a dangos eu cefnogaeth ym Mharc y Scarlets.

Dywedodd Ffion Morgan, chwaraewr rhyngwladol Cymru, a gafodd ei geni yn Llandeilo:

Rydw i wastad yn mwynhau chwarae yn Sir Gâr - dyma lle dechreuodd fy nghariad at y gêm mewn gwirionedd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y gêm gymhwyso gyntaf ar gyfer Cwpan y Byd ym Mharc y Scarlets a gweld y cefnogwyr yn ein cefnogi ni. Mae cael y cyfle i gynrychioli fy nhîm yma, o flaen fy nheulu, fy ffrindiau a'r gymuned sydd wedi fy nghefnogi o'r dechrau, yn anhygoel o arbennig."

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant  Thwristiaeth:

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle pwysig i ddathlu cyflawniadau menywod a merched yn Sir Gâr ac i fyfyrio ar y gwaith sydd i'w wneud i gyflawni cydraddoldeb.
Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd cynhwysol yn ein cymunedau – o weithgarwch ar lawr gwlad yn ein canolfannau hamdden i groesawu chwaraeon rhyngwladol i'r sir. Trwy ddod â'r elfennau hyn at ei gilydd, rydym yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac arddangos cryfder, talent a photensial menywod a merched ledled Sir Gâr."