Cau ffordd yr A485 Alltwalis dros dro gyda'r nos i osod wyneb ffordd newydd

17 awr yn ôl

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud gwaith hanfodol ar yr A485 yn Alltwalis y mis hwn, sef gosod wyneb ffordd newydd. I gwblhau'r gwaith yn ddiogel, bydd 170 metr o'r A485 - sydd wedi'i lleoli 1.1 cilomedr i'r de o'r gyffordd â'r B4459 ar gau dros nos am ddwy noson, o 6:40pm ar 12 Mawrth 2026 tan 6am ar 14 Mawrth 2026.

Yn ystod y dydd, bydd y ffordd yn ailagor o dan reolaeth goleuadau traffig un lôn, fel sydd ar waith ar hyn o bryd. Bydd hyn yn caniatáu i draffig basio trwy Alltwalis cyn i'r gwaith ddechrau yn ystod y nos.

Tra bod y ffordd ar gau dros nos, bydd traffig yn dilyn llwybr dargyfeirio ag arwyddion drwy:

  • yr A485 i Lanllwni
  • y B4336 i Landysul
  • yr A486 i Bentre-cwrt
  • yr A484 i Langwili
  • gan ddychwelyd i'r A485 i Alltwalis.

Lle bo'n bosibl caniateir i gerddwyr gael mynediad i eiddo drwy gydol y cyfnod y bydd y gwaith yn cael ei wneud.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd wrth i'r gwelliannau hanfodol hyn gael eu gwneud.