Bagiau Benthyg Actif am ddim bellach ar gael i deuluoedd drwy Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin
1 diwrnod yn ôl
Mae Tîm Cymunedau Actif Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor i gynnig mynediad am ddim i deuluoedd at offer gweithgareddau a gemau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi datblygiad corfforol plant ifanc.
Crëwyd y prosiect i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a datblygu sgiliau y tu hwnt i leoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a lleoliadau cymunedol. Mae'n helpu plant i ddatblygu sgiliau symud hanfodol fel rhedeg, neidio, taflu, dal a chicio - sgiliau sy'n cefnogi bywyd bob dydd, yn magu hyder ac yn trosglwyddo ar draws pob camp. Mae hyn yn helpu plant i deimlo'n hyderus ac yn barod i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wrth iddynt dyfu.
Mae'r bagiau benthyg wedi'u hanelu at blant iau, gan annog rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd i fod yn egnïol gyda'i gilydd trwy weithgareddau syml a llawn hwyl y mae modd eu gwneud unrhyw le, gan gynnwys gartref, yn yr ardd neu yn yr awyr agored. Mae pob bag yn cynnwys detholiad o offer chwaraeon ynghyd â llyfryn adnoddau sy'n llawn cardiau gweithgaredd, syniadau ar gyfer gemau, cynghorion hyfforddi ac awgrymiadau ar gyfer eitemau eraill y cartref i'w defnyddio os nad oes offer ar gael. Mae teuluoedd yn gallu benthyca bag yr un ffordd ag y bydden nhw'n benthyca llyfr o'r llyfrgell ac mae modd benthyg mwy nag un bag os oes angen.
Mae'r bagiau ar gael yn rhad ac am ddim o lyfrgelloedd Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, ac mae cynlluniau i ehangu mynediad trwy lyfrgelloedd ychwanegol yn y dyfodol. Mae'r llyfrgelloedd hefyd yn cynnal sesiynau Amser Stori Actif, sy'n dod â straeon yn fyw trwy symudiad, gan helpu plant i ddatblygu sgiliau corfforol mewn ffordd ryngweithiol a llawn hwyl. Gall teuluoedd gysylltu â'u cangen llyfrgell leol i gael rhagor o fanylion.
Mae darparwyr gofal plant lleol eisoes wedi gweld effaith y cynllun. Dywedodd Julia, gwarchodwr plant o Sir Gaerfyrddin:
Rydyn ni'n defnyddio'r bagiau benthyg sawl gwaith yr wythnos ac wedi gweld gwelliannau go iawn yn hyder, cydbwysedd a sgiliau taflu'r plant. Mae'r gweithgareddau'n hawdd i'w trefnu, yn hwyl i'w defnyddio dan do ac yn yr awyr agored, ac yn annog plant o wahanol oedrannau i chwarae a dysgu gyda'i gilydd. Mae'r llyfryn yn arbennig o ymarferol ac yn addas i blant, ac mae'r plant wir yn mwynhau dewis y gweithgareddau a helpu i'w gosod."
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydyn ni'n falch iawn o weld bod y Prosiect Bagiau Benthyg Actif a'r sesiynau Amser Stori yn ôl yn ein llyfrgelloedd. Mae'r mentrau hyn yn ei gwneud hi'n hawdd i deuluoedd fod yn egnïol, cael hwyl gyda'i gilydd, a chefnogi datblygiad plant o oedran ifanc. Mae llyfrgelloedd yn ganolog i'n cymunedau, ac mae'n wych eu gweld yn gweithredu fel mannau casglu yn ogystal â chynnal gweithgareddau sy'n dod â straeon a symudiad yn fyw. Rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o deuluoedd yn manteisio ar yr adnoddau rhad ac am ddim hyn ac yn mwynhau treulio amser gwerthfawr gyda'i gilydd."
Mae Tîm Cymunedau Actif hefyd wedi cyflwyno menter newydd sef 'Sgiliau'r Mis'. Bob mis, mae fideo byr yn canolbwyntio ar sgil corfforol gwahanol, gan gynnig awgrymiadau hyfforddi syml a syniadau i addasu gweithgareddau. Mae'r fideos wedi'u hanelu'n bennaf at blant cyn oed ysgol a phlant y Cyfnod Sylfaen ac maent ar gael ar wefan Actif (actif.wales) a sianeli cyfryngau cymdeithasol Actif.
Drwy weithio gyda'i gilydd, mae Cymunedau Actif a Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd gael mynediad at adnoddau ymarferol am ddim sy'n helpu plant i symud mwy, magu hyder, a datblygu cariad at fod yn egnïol o oedran ifanc.
