Amgueddfa Sir Gâr i agor tair oriel newydd sy'n tynnu sylw at gasgliadau a threftadaeth ranbarthol

2 diwrnod yn ôl

Bydd Amgueddfa Sir Gâr yn agor tair oriel newydd y gwanwyn hwn. Mae'r ailddatblygiad yn rhan o raglen barhaus yr amgueddfa i ailddehongli a gwella mynediad y cyhoedd i'w chasgliadau ac mae'n cael ei hariannu drwy gynllun Cyllid Grant Cyfalaf Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru.

Mae Prif Neuadd yr Amgueddfa wedi'i had-drefnu i greu oriel Coffáu, a fydd yn gartref i gasgliad yr Amgueddfa o feini hirion arysgrifedig. Bydd y cyhoedd yn gallu gweld y meini hyn am y tro cyntaf ers dros chwe blynedd. Bydd yr oriel hefyd yn cynnwys paentiadau sy'n darlunio ffigurau hanesyddol sy'n gysylltiedig â Sir Gaerfyrddin, deunydd archeolegol fel arteffactau Rhufeinig, a dehongliad wedi'i ddiweddaru yn ymwneud â ffris Cofeb Picton.

Mae hen ystafell fwyta Esgobion Tyddewi wedi'i thrawsnewid yn oriel Creu, Comisiynu, Casglu. Bydd y gofod hwn yn arddangos gweithiau dethol o gasgliad paentiadau'r Amgueddfa, gan gynnwys portread gan Mary Beale a ymddangosodd ar raglen Britain's Lost Masterpieces y BBC yn 2017. Bydd gwrthrychau sy'n cynrychioli arferion creadigol ar draws gwahanol gyfnodau, megis ffigwr cerfiedig 10,000 mlwydd oed a dehongliad cyfoes o seld Gymreig, hefyd yn cael eu harddangos. Mae'r oriel wedi'i chynllunio i weithredu'n hyblyg a gellir ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol a digwyddiadau grŵp lleol.

Bydd yr Oriel Ddarganfod yn cyflwyno ystod eang o wrthrychau o ddaliadau'r Amgueddfa, gan gynnwys eitemau fel ffaniau Japan a globau poced. Mae'r oriel yn darparu gwybodaeth am gyd-destun hanesyddol y gwrthrychau hyn ac yn tynnu sylw at sut maent yn ymwneud â materion cyfoes, gan gynnwys colli bioamrywiaeth a thrafodaethau ynghylch hanes diwylliannol a threfedigaethol. Bwriad y gofod yw cefnogi dysgu ac ymgysylltu trwy annog ymwelwyr i archwilio'r cysylltiadau rhwng y gwrthrychau a datblygiadau byd-eang ehangach.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

Mae'r orielau newydd hyn yn enghraifft wych o sut y gall buddsoddiad mewn diwylliant ddod â chymunedau at ei gilydd a gwneud ein treftadaeth gyffredin yn hygyrch i bawb. Mae Amgueddfa Sir Gâr yn helpu pobl i gysylltu â straeon eu sir - o feini hirion hynafol i greadigrwydd cyfoes - ac rwy'n falch iawn bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i wneud hyn yn bosibl."

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth: 

Mae ailagor yr orielau hyfryd hyn yn foment gyffrous i Sir Gaerfyrddin. Mae tîm yr Amgueddfa wedi creu mannau sy'n anrhydeddu ein gorffennol, yn arddangos ein creadigrwydd ac yn sbarduno sgyrsiau newydd am y byd o'n cwmpas. Mae'r orielau hyn yn darparu cyfleoedd newydd i breswylwyr ac ymwelwyr gysylltu â'r straeon sy'n gwneud ein sir yn unigryw, ac rydym yn falch iawn o groesawu pobl yn ôl drwy'r drysau.”

Mae'r tair oriel yn rhan o waith parhaus yr Amgueddfa i ddehongli a chyflwyno treftadaeth Sir Gaerfyrddin trwy arddangosfeydd hygyrch, cynhwysol ac addysgiadol.