Y Cyngor yn gofyn am farn ar deithio llesol yn Sir Gaerfyrddin

6 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am farn trigolion, busnesau a rhanddeiliaid ar deithio llesol yng Nghaerfyrddin a Llanymddyfri.

Ar y cyd â'r ymgynghorwyr Mott MacDonald a Burroughs, cafodd cynigion eu datblygu sy'n nodi gwelliannau pellach posibl i lwybrau teithio llesol yng Nghaerfyrddin a Llanymddyfri.

Anogir aelodau o'r cyhoedd i ddweud eu dweud ar-lein neu fynychu sesiwn galw heibio i rannu eu barn a helpu i lunio gwelliannau yn y dyfodol yn y meysydd allweddol hyn o'r sir.

Yng Nghaerfyrddin, mae'r ymgynghoriad yn ystyried cynigion sy'n cysylltu o gyffordd Rhiw'r Castell i Lwybr Dyffryn Tywi drwy Abergwili, y nod yw bod y llwybrau arfaethedig yn cefnogi cysylltedd ar draws Caerfyrddin i gyrchfannau allweddol er mwyn galluogi ac annog teithiau bob dydd drwy greu cyfleoedd cerdded, olwyno a beicio. Bydd ymgynghoriad Teithio Llesol Caerfyrddin yn dechrau ddydd Mercher 25 Chwefror. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 18 Mawrth 2026.

Yn Llanymddyfri, mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar lwybr arfaethedig sy'n arwain o orsaf drenau Llanymddyfri drwy Goleg Llanymddyfri a thuag at Ysgol Rhys Pritchard, gan ddarparu llwybrau teithio llesol mwy diogel ar gyfer teithiau disgyblion i'r ysgol bob dydd, myfyrwyr coleg sy'n cymudo a'r cyhoedd ehangach. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 13 Mawrth 2026.

Mae digwyddiadau galw heibio wedi'u trefnu i alluogi pawb i gael rhagor o wybodaeth, trafod y cynigion a dweud eu dweud.

•    Dydd Gwener 27 Chwefror, 10am-7pm - Canolfan Hamdden Llanymddyfri 
•    Dydd Mercher 11 Mawrth, 12pm-6pm - Neuadd Eglwys Abergwili

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: 

“Rydyn ni wedi cael mewnwelediad ac adborth gwerthfawr gan gymunedau yn y gorffennol, sydd wedi bod yn fuddiol iawn wrth ddatblygu rhwydweithiau teithio llesol yng Nghaerfyrddin a Llanymddyfri. Rwy'n annog pawb i ddweud eu dweud naill ai gan ddefnyddio'r arolwg ar-lein neu drwy fynychu sesiwn galw heibio.”

Mae arolygon ar-lein ar gael ar gyfer cynigion Cynllun Teithio Llesol Caerfyrddin a Llanymddyfri ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae copïau papur o'r arolygon ar gael yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor Sir yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.