Y Cyngor yn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd
3 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo'i Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd mewn cyfarfod ddydd Mercher, 25 Chwefror 2026, sy'n nodi £150m o wariant y Cyngor tan 2030/31.
Mae'r buddsoddiad hwn yn cynnwys £25 miliwn ar gyfer adeiladau ysgolion a chartrefi plant, £13 miliwn ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl, £15 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol gan gynnwys cartref gofal preswyl newydd a chartrefi plant, £30 miliwn ar gyfer datblygu economaidd, £56 miliwn ar gyfer priffyrdd a seilwaith ailgylchu, £4 miliwn ar gyfer seilwaith TG digidol, £1 miliwn ar gyfer Harbwr Porth Tywyn a £6 miliwn ar gyfer cronfa fuddsoddi gorfforaethol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Mae'r ffynonellau ariannu'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau Cyngor Sir Caerfyrddin ei hun.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau:
"Mae'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd yn nodi ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i fuddsoddi £150m yn y pum mlynedd nesaf.
Mae'r rhaglen arfaethedig yn cael ei hariannu gan oddeutu £107 miliwn o ffynonellau'r cyngor a £38 miliwn o grantiau allanol.
Er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd, mae'r rhaglen gyfalaf arfaethedig yn ein hymrwymo i fuddsoddiad sylweddol rhwng nawr a 2031. Mae'n manteisio ar y cyfleoedd cyllido a'r cyllid gan ffynonellau allanol posibl.
Bydd cyfuniad o gynlluniau newydd a phresennol, yn unol â'n gweledigaeth gorfforaethol, yn datblygu'r economi leol, yn creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd ein trigolion ac ymwelwyr â'n sir, gan ddiogelu ein hadnoddau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
