Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2026
5 diwrnod yn ôl
Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9 – 15 Chwefror) yn ddathliad wythnos o hyd i dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau'n ei chael ar unigolion, busnesau a'r economi ehangach.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae prentisiaid yn ei wneud, gyda'i raglen brentisiaethau - Amdani, sydd wedi bod ar waith ers tro, yn croesawu carfan newydd o 17 o brentisiaid ym mis Medi 2025, gan ddod â chyfanswm nifer y prentisiaid a gafodd eu recriwtio drwy'r rhaglen i 25.
Roedd lleoliadau prentisiaethau yn amrywio o lefel dau i brentisiaethau gradd mewn ystod o feysydd gan gynnwys TG, sgiliau digidol ar gyfer busnes, dadansoddi data, dysgu digidol, llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth.
Fel rhan o'u datblygiad, mae prentisiaid hefyd wedi cael cyfle i gryfhau eu sgiliau Cymraeg gyda chymorth mentoriaid a sesiwn bwrpasol ar weithio o fewn sefydliad dwyieithog. Maent yn parhau â'u taith ddysgu ochr yn ochr â rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi'i theilwra, sydd wedi'i chynllunio i ehangu eu dealltwriaeth o'r sefydliad gan annog cydweithredu a meithrin perthynas.
Ymunodd Sianco Emmanuel â Chyngor Sir Caerfyrddin ym mis Medi 2024 ar leoliad profiad gwaith hirdymor sydd, gan weithio'n agos gydag Ysgol y Strade, wedi'i deilwra i ddiddordebau a galluoedd Sianco.
Mae gan Sianco angerdd amlwg am waith ymarferol, a dewisodd archwilio paentio ac addurno, gan fynd i leoliad gyda'r Cyngor Sir am ddau ddiwrnod yr wythnos a pharhau â'i astudiaethau TGAU yn yr ysgol am weddill yr wythnos.
Trwy weithio'n agos gyda Thîm Cynnal a Chadw Eiddo'r Cyngor, ynghyd â chael cefnogaeth Adrian Brown, ei fentor, yn fuan dechreuodd Sianco ddatblygu ei sgiliau ymarferol, gan weithio ar draws amrywiaeth o safleoedd gan gynnwys Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, cartrefi preswyl a swyddfeydd eraill sy'n eiddo i'r Cyngor.
Dywedodd Sianco:
“Rwy'n mwynhau gweithio gyda'r tîm a dysgu pethau newydd drwy'r amser. Rwy'n hoffi bod yn brysur, ac mae pob diwrnod yn wahanol. Rwy'n credu bod gwneud profiad gwaith y llynedd wedi fy helpu i benderfynu pa yrfa roeddwn i am ei gwneud pan wnes i adael yr ysgol. Eleni yn y coleg, mae'n ddefnyddiol fy mod yn deall rhywfaint o'r wybodaeth sy'n cael ei haddysgu i ni yn y gwersi oherwydd dyma'r pethau y mae Adrian a'r tîm wedi'u haddysgu i mi ar y safle."
Ers mis Medi 2025, mae Sianco wedi bod yn rhan o Gynllun Prentisiaeth ar y Cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle, sef gwasanaeth sy'n cefnogi oedolion ifanc i gael cyflogaeth gynaliadwy yn y diwydiant adeiladu, lle mae wedi dechrau ei brentisiaeth mewn paentio ac addurno gan aros gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
Yn ddiweddar, enillodd Benjamin Evans, prentis Perfformiad ac Arloesi, Wobr Dysgwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngwobrau Prentisiaethau Blynyddol Academi Sgiliau Cymru yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot am ei ymroddiad i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Ben:
“Rwyf yn angerddol am ddiwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg ac rwy'n falch iawn o'r wobr. Rwyf wedi mwynhau gwella fy sgiliau a defnyddio'r Gymraeg bob dydd a gallu helpu eraill i fagu hyder."
Yn ogystal â'i raglen Amdani, mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cefnogi 150 o aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau a datblygu eu gyrfaoedd o fewn y sefydliad.
Ers 2022, mae Academi Gofal y Cyngor wedi cefnogi 18 o hyfforddeion sy'n chwilio am yrfa ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol, ac mae pob un yn dod â'i angerdd, ei ymrwymiad a'i daith ei hun i ofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:
"Mae prentisiaethau'n ffordd wych i bobl o bob oed ddatblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau wrth ennill cyflog. Mae'n rhaid i mi ddiolch nid yn unig i'n prentisiaid am eu gwaith caled, ond hefyd i'r rhai sy'n gweithio ar draws Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rhoi cefnogaeth a mentoriaeth mor ardderchog. Mae hyn yn galluogi prentisiaid i ffynnu ac yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth iddynt i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus."
