Sir Gaerfyrddin yn ehangu prosiectau natur a arweinir gan y gymuned drwy'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
5 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gefnogi adferiad natur ac ymgysylltu â chymunedau ledled y sir drwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae prosiectau diweddar a gyflwynwyd drwy'r rhaglen yn tynnu sylw at sut mae partneriaethau gyda darparwyr tai, lleoliadau addysg, grwpiau cymunedol ac arbenigwyr lleol yn helpu i wella bioamrywiaeth wrth gryfhau sgiliau a chyfranogiad lleol.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Wales & West, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cefnogi gwelliannau bioamrywiaeth ar draws nifer o ystadau tai. Mae'r rhain yn cynnwys mabwysiadu dull o reoli glaswelltir sy'n denu pryfed peillio, plannu bylbiau a choed brodorol, a chreu gwestai pryfed. Mae'r tenantiaid a thrigolion wedi cymryd rhan weithredol yn y prosiectau, tra bod timau ystadau wedi derbyn cefnogaeth ac offer i sicrhau bod yr ardaloedd yn parhau i gael eu rheoli ar gyfer bywyd gwyllt yn y dyfodol.
Yn Llanelli, mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cyfrannu at welliannau yn Noc y Gogledd fel rhan o ddathliadau i nodi 25 mlynedd ers agor Llwybr Arfordirol y Mileniwm. Mae meinciau â blychau plannu blodau gwyllt newydd wedi'u gosod, a gafodd eu creu gan Hwb Sgiliau'r Cyngor ac maent yn cynnwys rhywogaethau arfordirol brodorol. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys cerfiadau pren gan y cerflunydd lleol Simon Hedger, wedi'u hysbrydoli gan fywyd gwyllt a chymeriadau o'r Mabinogi. Cyflwynwyd y cynllun mewn partneriaeth â Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored y Cyngor, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a chontractwyr lleol.
Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi adfywiad sgiliau cefn gwlad traddodiadol drwy gyfres o brosiectau plygu perthi ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'r safle diweddaraf ar Lwybr Dyffryn Tywi, Llandeilo, wedi cynnwys disgyblion o Ysgol Bro Dinefwr, gyda phrosiectau pellach ar y gweill ar gyfer Llanelli a Chaerfyrddin. Mae'r gwaith, a gyflwynwyd drwy gefnogaeth y plygwr perthi lleol Malcolm Edwards, yn cyfuno hyfforddiant ymarferol ag ymgysylltu â'r cyhoedd, gan helpu pobl i ddysgu technegau traddodiadol wrth wella cynefinoedd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cyfrannu at adfer mwy na 700 metr o berthi ar draws pedwar safle, gyda chymorth o leiaf 70 o gyfranogwyr lleol. Mae perthi sy'n cael eu rheoli'n dda yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu cynefinoedd, cefnogi bywyd gwyllt, storio carbon a chyfrannu at gymeriad tirwedd Cymru.
Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i ddarparu yn Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir drwy'r Bartneriaeth Natur Leol. Mae'r rhaglen yn cefnogi prosiectau ar raddfa fach, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n helpu natur i ffynnu mewn trefi, pentrefi ac ardaloedd gwledig ledled y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn dangos sut y gall gweithio mewn partneriaeth ddarparu manteision gwirioneddol i gymunedau a'r amgylchedd naturiol. O ystadau tai a mannau cyhoeddus i lwybrau cefn gwlad, mae'r prosiectau hyn yn helpu i wella bioamrywiaeth ac yn rhoi cyfleoedd i bobl gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd ac ymfalchïo yn eu hardaloedd lleol.
Rydyn ni'n ddiolchgar i'n partneriaid, gwirfoddolwyr ac arbenigwyr lleol am eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd, ac i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r gwaith pwysig hwn ar draws Sir Gaerfyrddin.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: Dweud eich dweud heddiw - Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Sir Gaerfyrddin - Commonplace
